Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhif. XXXV.] TACHWEDD, 1833. [Llyfr ht- BYWGRAFFIAD Y PARCH. ROWLAND HILL, O LUNDAIN. —♦>©«— Y Parchedig Rowland Hill a anwyd ar y 23ydd o Awst, 1744, yn Hawkstone, yn Sîr Amwythig. Yr oedd efe yn hanu o deulu anrhydeddus iawn; y trydydd o buni brawd oedd: Richard, John, Row- land, Brian, a Robert, tad y rhai oedd Rowland Hill, yr hwn a ddyrcbafwyd gan George I. Brenin Brydain, drwy roi iddo yr enwad o Baronig, {Baronct.) Gellir dilyn llîn âch Mr. Hill cyn bell- ed yn ol, a'r flwyddyn 1272; pryd y bu i Huinphrey Hill briodi merch i John Bridde, Ysw. yr hon oedd yn disgvn o du ei mam o hen Ieirll Caerlleon, ac o un o'r meibinn ieuengaf o'r briodas hon yr hanodd Syr Rowland Hill, yr Arglwydd Mäer protestanaidd cyntaf dinas Llundain, yr hon swydd oruchel agyflawnoddefedan deyrnasiad Hari VIII. yr hwn a roddes iddo y titl Marchog; ac yn nheyrnasiad Edward VI. galwyd ef drachefn i wasan- aethu swydd Mäer Llundain. Yn nheyrnasiad William III. a'r Fren- hines Anne, y Gwir AnrhydeddusRichard Hill a gyflawnoddamrywswyddaugoruch- el a phwysfawr. Gwnaed ef yn Arglwydd y Trysorlys, ac yn Gynghorwr yn y Cyf- rin Gynghor; a Nai i'r gwr hwu oedd tad y Parch. Rowland Hill, brawd vr hwn, sef Richard a gafodd etifcddiaeth a thitlau ei Hynafiaid, ac a gynnrychiolodd Sîr Amwythig fel aelod o'r Senedd dros chwech Senedd olynol. Ond oherwydd iddo farw yn ddiblant, daeth ei frawd Syr John Hill, i gymmeryd anrhydedd y teulu, tad y presennol Arglwydd Hill, yn awr Pentiwdod Byddinoedd Brydain f'awr. Yn awri ddychwelyd oddiwrth oruchel achau gwrthryeh y Cofiant hwn, at y gwrthrych ei hun, parchus weinidog yr efengyl yn Nghapeì Surrey yn Llundain. O'r Maenordy y teulu, yr hwn sydd o fewn deunaw milldir o'r Amwythig, an fonwyd Mr. Hill i'r Ysgolgrammadegawi yn y dref hono ; a phan oedd yn bedair ar ddeg oed, anfonwyd ef fi ysgol uwch- raddol i Eton, lle y bu efe yn aros am bedair blynedd. Pan oedd ef yn Eton y dechreuodd efc weledyrangenrheidrwydda'rddyledswydd o fwrw ymaith wagedd ac oferedd, acym- roddi i ymofyn amyr un peth angenrheid- iol; achlysurwyd y tro hwn, drwy wran- do ar ei frawdRichardyn darllen pregeth c waith Esgob Beveridge ar Ioan i. 29. ' Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau'r byd.' Cafodd y breg- eth bon gymmaint o argraff ar ei feddwl fel yr ymroddodd i ddarl'en y Bibl y:i nghyd ág Esboniadau arno o waith yr awduron goreu, Hervey, Henry, Dodd ridge, ac ereill. Bu hyn yn foddion i sefydlu a chadarnhau ei feddwl yn y wir athrawiaeth ; ac fe'i cyfarwyddwyd ef i'r fl'ordd gnl sydd yn arwain i'r bywyd. Oddeutu amser ei fynediad i'r Brif Athrnfa, ei fiawd Richard, yr hwn oedd un mlynedd ar ddeg hỳn nag ef, ac oedd yn wr duwiol ac uniawn-gred,aanfonodd lythyr atto, yr hwn oedd yn faith, a chyn- nwysfawr iawn. Cadwodd Mr. Hill yr Epistol hwn yn ei ymyl hyd ei fedd, fel arweinydd beunyddiol iddo fel cristion ac fel pregethwr. Mae y llythyr rhagorol hwn yn argrafledig yn nechreu llyfr y Pymtheg pregeth o waith Mr. IIiil, y rhai a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Aeth Mr. Hill i'r Brif Athrofa, Cam- bridge, a derbyniwyd ef yn îs-raddolwr yn Coleg St. John. Cafodd yma gyfeill- ach ambell i wr da ymysg llawer iawn »> rai drwg a dirieidus. Efe a ddewisodd 2 S