Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhif. xliii.] GORPHENAF, 1834. [Llyfr IV. ATHRAWIAETH. Am gwymp dyn a phechod gwreiddiol. Ynghyd a chyflwr dynolrt/. wrth natur. ■w Fe groedd Duw ddyn ar y cyntaf ar ei ddelw ei hun ; o ran ei gorph, o bridd y ddaear; ac a anadlodd yn ei ffroenau anadl einioes, a'r dyn a aeth yn enaid byw, rhesymol, ysbrydol, ac anfarwul. Gwnaed ef yn uniawn, heb na gwyrni na thrawsedd ynddo ; na'r gradd lleiaf o lwgr yn ei natur; a'i holl hiliogaeth ynddo yn yr un modd, ar lun a delw Duw, yn wybodus, yn gyfiawn, ac yn sanctaidd, ac yr oedd y ddeddf o ran ei sylwedd yn ei natur, a chanddo bob man- tais a pliob gallu i ei chadw; ond yr oedd yn agored i gyfìaewid, ac felly yn bosibl iddo syrthio. Yr oedd Duw wedi rhoddi pob man- teision iddo i gadw y ddeddf a'r gorchym- yn, Tra y cadwodd y gorchymyn y safodd, yr oedd mewn cyflwr dedwydd yu heddwch Duw, ac vn mwjnhau ei gym- deithas, a llywodraeth ac arglwyddiaeth ganddo ar holl greaduriaid y byd hwn, Fe ymostyngodd y Creawdwr i wneu- thur cyfammod â'i greadur, addas a phriodol iddo yn ei gyflwr crëedig; yr hwn (sef y cyfammod) oedd yn cynnwys ynddo orchymyn, a bygythiad ; a'r gor- chymyn yr hwn a roes Duw fel prawf o'i ufudd-dod iddo, oedd peidio a bwytta o ffrwyth y pren gwaharddedig; a'r bygyth- iad oedd marwolaeth os bwyttai o hono; ' gan farw ti a fyddi farw.' Gan fod gorchymyn yn y eyfammod, a bygythiad am dori hwnw, sef marwolaeth; gallwn ddeall fod addewid yn y cyfammod, o fywyd a dedwyddwch os cadwai y gorch- ymyn; mewn cyferbyniad i'r bygythiad, sef marw olaeth, am ei dori. Yr oedd Adda yn y cyfammod hwn, yn sefyllfel gwreiddyn ei holl hiliogaeth, ac hefyd fel eu pen cyn-ddrychiolwr, yn eu cynddrychioli yn y cyfammod : os torri y cyfammod a wnai efe, a myned tan y bygythiad, sef inarwolaeth, yr oedd ei holl hiliogaeth hefyd yn myned o tan y bygythiad; ac os cadwai y cyfammod heb ei dori, yr oedd bywyd a dedwyddwch i ei gael iddo, a'i holl hâd ynddo a fwynhaent yr un dedwyddwch; am ei fod yn sefyll fel eu pen yn y cyfammod. Ac yma y gwelwn fod dedwyddwch ei holl hâd, neu eu hanedwyddwchyngystal ag ef ei hun, yn sefyll ar ei ufudd-dod, neu ei anufudd-dod ef; ond torri y cyfammod a wnaeth efe; a cholli hawl i'r bywyd oedd ynyr addewid ; a myned tân y farwolaeth oedd yn y bygythiad : wedi myned i'r çyflwr yma, collodd y ddelw hardd, a'r uniondeb gwreiddiol, oedd ganddo; ac fe aeth jn hollol lygred- ig trwy ei holl natur. Gan fod Adda yn wreiddyn a chyn- ddrychiolwr ei holl had yn y cyfammod, y.mae ei bechod cyntaf yn cael ei gyfrif iddynt, a'i lygredd yn dyfod i'w holl had, trwy genhedliad naturiol o hono : y mae holl ddynolryw wedi myned trwy y llyg- riad hwn, yn wyrthwynebol, ac yn analluog i bob daioni ; ac nid hyny yn unig, ond hefyd yn dueddol i bob drwg : y mae y pechod gwreiddiol hwn fel gwreiddyn i'r holl bechodau eraill, a'r rhai hyny fel canghenau yn tarddu oddi arno ; y mae y peehodgwreiddiola'r holl bechodau eraill a weithredir gan ddyn- ion; yn droseddiad o gyfraith Duw; ac yn dwyn y pechadur dan felldith, a digofaint Duw, (/'» barhau.) DERNYN O BREGETH, A draddodnyd gan y diweddar Barch. 2 C