Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhif. xcviii.] CHWEFROR, 1839. [Llyfb IX. BUCHDRAETH Y Parch. THOMAS YINCENT, M.A. TJn o'r Anyhydffurfwyr (Nonconformists), yr hwn oedd yn Weinidog yn Christ Church, Rhydychain, ac a fwrìwyd allan oddi yno drwy Gyfraith yr Unffurfiaeth yn 1662. Ganwyd Mr. Thomas Vincent yn mis Mai, 1634. Meibion oedd efe aM frawd, Mr. Nathaniel Vincent, i Mr. John Viucent, Gweinidog yr Efengyl, yr hwn a anwyd yn ngorllewin Lloegr, ac a fu farw yu Sedgfield, pan oedd efe yn weinidog y plwyf cyfoethog hwnw. yn Esgobaeth Durbam. Thomas oedd ei fab hynaf ef,yr hwn a ddaeth i mewn i1r Personoliaeth hono yu Rhydychain ar ol Mr. Case. Vr oedd Mr. Vincent yn wr syml, gostyngedig, ac enwog mewn duwioldeb, ac ymarweddiad sobr, yn llawn zel a diwydrwydd. Efe a ddysg- odd Lyfr y Psalmau a'r holl Desta- ment Newydd ar dafod leferydd. Efe a gymmerodd y llafur hwn arno o ddysgu yr Ysgrythyrau allan, fel y dy- wedodd amryw weithiau, rhag "i'r rhai a ddygasent ei bulpud oddiarno, mewn amser fynu ei Fibl hefyd." Dywed Mr. Wood am Mr Thomas Vincent, " Fe'i perchid ef yn fawr bob amser o herwydd ei dduwioldeb,yn enw- edigol gan ei frodyr. Acnidei frodyro'r un blaid ag ef yn unig a'i parchent, ond hefyd pob dyn sobr ag oedd yn gydnab- yddus âg ef; canys gwr enwog a defn- yddiol iawn oedd efe yn ei ddydd. Yr oedd efe yn un o'r ychydig nifer o'r Gweinidogion y rhai a arosasant yn ninas Llundain yu amser enbydus y pla mawr, yn y flwyddyn 1665. Yn ughanol y pla, yr hwn oedd yn tori ugeiniau i lawr bob dydd, efe a barha- odd i bregethu i'r bobl gyda phob di- wydrwydd a ffyddlondeb, ar yr amser angenrheidiol ac enbyd hwnw. Yr hanes am dano yn yr amgylchiad hwn sydd fel hyn:— Wedi cael ei fwrw allp.n o'r Eglwys yn Rhydychain, efe a aeth i Lundain ; ac efe a fu am ryw amser yn cynnorth- wyo y gwr enwog hwnw, Mr. Doolittle, yu Islington, gerllaw Llundain, yn addysgu gwyr ieuainc mewn dysgeid- iaeth Athrofaol; ac fe'i cyfrifid ef ytì addas iawn at y gorchwyl, o ran ei ddysgeidiaeth a'i ddoniau. Fel yr oedd y pla yu cynnyddu yn ddychryn- llyd yn Llundain, ac yn tori dynion o bob oedrau a sefyllfa i lawr i'r beddyn ddiarbed, teimlai yn ei feddwl ryw awydd cryf iawn am fyned i bregethu Crist i'r rhai byw, gan farnu o hono fod meddyliau miloedd yn ddychrynedig, a'u cyflyrau yn anmharod i fyned i dra- gywyddoldeb, a bron neb yn gallu sef- yll i'w cyfarwyddo i ffoi i'r noddfa. Efe a hysbysodd i'w frawd, a'i gyd- lafurwr, Mr. Doolittle, fod gwasgfa ddwys yn yr achos hwn ar ei feddwl ddydd a nos ; a'i fod yn tueddu i adael ei sefyllfa gysurus bresennol, ac ym- gyssegru yn ymroddol i ymweled á'r cìeitìon, ac i bregetbu i'r rhai iach yn mhob Eglwys yn y ddinas lle y cai gan- iatad, yn yr amser helbulus ac euibyd- us hwuw. Cynnygiodd Mr. Doolittle ei berswadio ef i beidio myned, drwy ddangos iddo y mawr berygl o'r antur- iaeth amcanedig. Dywedodd, ei fod efyn barnu nad oedd galwad arno i fyned i Lundain i wyneb y pla dy- chrynllyd, pan yr oedd efe mewn sef- yllfa fuddiol, fel na ddylai ei gadael heb fod galwad amlwg arno mewn rhag- luniaeth i fyned i le arall---y dylai efe, yn hytrach na rhedeg i wyueb y fath berygl, gadw ei bun i fod yn fuddiol i'r oes a ddel, drwy ei ddyfalwch a"i lafur yn addysgu y gwyr ieuainc hyn, yn y lle yr oedd efe yrawr hono yn sefydl - edig. Ond nid oedd ei holl ymgais yn llwyddo ì berswadio Mr. Ýincenti roi i fynu ei amcan auturiaethol apherygîus. Yna hwy a gytunasant â'u giîydd i ofyn cyugor eu brodyr yn y We'n'.d- ogaeih, yn, ac oddeutu Iilundain. Galwasant am gyfarfod o Weinidogìon i'r perwyl. Yiì y cyfarfod hwn, hys- bysodd Mr. Doolittle fwriad Mr. Vin- cent i'w frcdyr, ac a ddywedodd wrth- ynt yr holl resymau ag oedd ganddo yn