Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhif. cviii.] RHAGFYR, 1839. [Llyfr IX. COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. JOHN *WILLIAMS, DOLYDDELEN. Cypodwyd, a galwyd Mr. John Wil- liams yn foreu i'r winllan ; dechreuodd lafurio mewn amser tywyll, ac anfan- teisiol iawn ; parhaodd yn ffyddlon dros dymhor hir, ac nid heb ddyoddef graddau o erledigaeth; etto, bu yn ffyddlon hyd angeu. Er ei fod wedi bod oddeutu hanuer can mlynedd ar y maes, nid ydoedd wedi colli yspryd gweithio hyd fachlud haul ei fywyd defnyddiol: ond yn awr, wele ef wedi huno yn yr Arglwydd mewn oedran teg, cicyngyflawn o ddyddiau. Y mae yn awr yn gorphwys oddiwrth ei lafur, ac wedi gadael yr anialwch, a diangc adref i fynwes Abraham, i fwynhau y wledd o basgedigion breision, ac i yfed yn helaeth o'r gloyw-win puredig, a'i ' Holl gadwynau yn chwilfriw mân, A'i gán am Galfari.' Mr. John Williams a anwyd yn y fl. 1757, mewn lle a elwir y Fedw- deg, yn mblwyf Penmachno, o rieni parchus, sef Wm. a Mary Jones,y rhai a symudasant wedi byny i le a elwir y Mur coch, Dolyddelen. Anfonwyd ef pan yn bum mlwydd oed i un o Ys- golion Madam Bevan, yn y plwyf uchod, yr hon a gedwid gan uu John Riehurds, yr hwn ydoedd yn ofni Duw, ac yn cilio oddiwrfh ddrygioni. Ar ol hwn, daeth un Dafydd Williams i gadw yr Ysgol, yr hwn hefyd oedd wr o ymarweddiad hardd a chrefyddol; a byddai yn arfer egwyddori y plant ar ddiwedd yr Ysgol, allan o Gatecism y Parch. Griffith Jones ; ac eglurai eg- wyddorion crefydd yn y modd agosaf at ddeall y plant, gan wasgu y gwirion- edd yn ddwys a difrifol at eu meddyl- iau : y prydhyny tcimlodd J. Williams gyffyrddiad y gwiriouedd gyntaf á'i feddyüau. Yr oedd y fath gaddug o nnwybod- aeth y pryd hyny yn cuddio yr ardal, fel ag yr oedd ei thrigolion mor anwy- bodus am wir grefydd a'r anifeiliaid a ddyfethir. Yr oedd tad a mam J. Wil- liams y pryd hyny yn cadw masnach- dŷ bychan yn y tŷ, a elwir y Mur coch. Yr oedd ei fam, ac ystyried ei hanfanteision, yn lied fedrus a dawnus yn y fasnach ; ond yr oeddynt ill dau yn hynod o anwybous o'r pethau mwyaf eu pwys, ac o ran eu hymarweddiad yr oeddynt yn byw yn ol helynt y byd bwn, ac arferion llygrediç yr oes. Ar- ferai hen ac ieuaingc dreulio y Sab- bathau mewn difyrwch ynfyd a gwag, megis canu a dawnsio, a chwareu cardiau. Ac felly y darfu i J. Wil- liams, fel yr oedd yn cynnyddu mewn oedran, gymmysgu yn fuan á'r ieuengc- tyd yn eu harferion a*u campau llygr- edig nes dileu i raddau mawr yr ar- graffiadau boreuol hyny oedd ar eî feddwl, ac ymollwng gyda'r genllif o lygredigaethau yr oes. Er hyny, nid oedd ei gydwybod yn ddystaw wrtho, canys byddai ei chy- huddiadau argyhoeddiadol weithiau yn peri iddo grynu ac ofni; ar ol bod yn treulio darn noswaith gyda'r cardiau, byddai yn caeî ei ddychrynu gymmaint gan gyhuddiadau cydwybod, fel y byddai yn ofni i'r yspryd drwg ei ladd ar y flbrdd wrth ddychwelyd adref. Bu ei fam farw pan oedd efe oddeutu deg oed; a phan oedd oddeutu un-ar- bymtheg oed, anfonodd ei dad ef fr Ysgol i Gaerlleon. A dywedai fod ei lygredd yn gryf, a'i duedd at oferedd yu cynnyddu, y byddai yn arferol o fyned i edrych ar y rhedegfeydd ce- ffylau, ac ar ol pob oferedd, gan ang- hofio Duw a sathru ei orchymynion dan ei draed. Wedi bod flwyddyn yn Nghaerlleon, dychwelodd adref, ac yr oedd yu cael ei ddwyn i fynu yn siopwr 2 n