Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhif. cxi.] MAWRTH, 1840. [Llyfr x. GORPHENWYD. PREGETH A BREGETHWYD GAN Y PARCH. W. THORPE, YN LLUNDAIN. (Parhad o tu dalen 36.) u Yxa pan gyramerodd yr Iesu y finegr, efe a ddywedodd, Gorphenwyd: a chan ogwyddo ei ben, efe a roddes i fynu yr ygpryd.—Ioan xix. 30. III. Sylwn yn mhellach ar y dull y llefarwyd y geiriau hyn. Y mae Mat- thew a Marc yn dywedyd iddo lefain ft llef uchel; a dywed Luc yr un modd, ond y mae yn ychwanegu iddo ddy- wedyd, * O! Dad i'th ddwylaw di y gorchymynaf fy yspryd;' ond y mae Ioan yn dywedyd gair na sylwyd arno gan yr efengylwyr ereill —' Gorpheo- wyd.' Ond nid oedd dull yr Iachawdwr yn llefaru yr ymadrodd hwn yn gorwedd cymraaint yn sŵn y llais, neu yn nerth yr adroddiad, ag yn mhwysfawrogrwydd yr ystyr oedd iddo. 1. Yr oedd y ddolef hon yn gyhoedd- iad o wirionedd pwysfawr. ' Y gwir- ionedd' oedd yr Iachawdwr ei hun; ac efe a ddaeth i ddwyn tystiolaeth i'r gwirionedd ; nid oedd ei eiriau ef yn Jfe ac yn nage, ond yn ie ac yn amen, yn gadarn ac yn safadwy, a thywalltwyd gras ar ei wefosau. Ni bu rhagrith yn perthyn iddo erioed; ni chaed twyll yn ei enau ; ac am hyny nis gall fod genym un achos i ameu ond pob rheswm i'w gredu ef, gan ymorwedd yn dawel ar wirionedd ei eiriau diweddaf wrth farw ; >e, fy mrodyr, yr oedd y gwaith wedi ei orphen, a chabledd fyddai meddwl fod Mab Duw wedi ymado â'r bywyd â thwyll yn ei enau, a chelwydd yn ei ddeheulaw. 2. Yr ydoedd hefyd yn arwydd gor- nçhafiaeth. Yr ydoedd ganddo frwydr 1 w hymiadd yn gyatal â rhedfa i'w rhedeg; yr oedd tywysog y tywyllwch *'i holl gryfder ar ûn ochr i fynydd Cal- jaria; ac ar y lla.ll yr oedd Tywysog y Jywyd, wedi ei glwyfo a'i archolli—yn «ayo dyoddefus a thrist: ac yr ydoedd tynged tragywyddol miloedd lawer yn ymddibynu ar ganlyniad y frwydr. Ond bendigedig fyddo Duw ni buont yn gor- wedd yn hir dan ameuaeth! Sawdl Ty- wysog y bywyd a ysigwyd — efe a gwympodd — ac a fu farw; ond wrth gwympo efe a orchfygodd y gelyn; ac wrth farw efe a * ddistrywiodd yr hwn oedd â nerth marwolaeth ganddo.' Wele, gan hyny, ' Dywysog ein hiachawdwr- iaeth ni wedi ei berffeithio drwy ddy- oddefiadau/ yn edrych i lawr yn fudd- ugoliaethus ar ei elynion ef ei hunan a'i bobl hefyd, pan oedd yn hoeliedig ac yn waedlyd ar bren y groes! 3. Nid dolef y clwyfus, neu y nych- Iyd, neu y dyn ar farw ydoedd, ond llais gorfoleddus concwerwr hoUattuog. 1 Efe a yspeiliodd dywysogaethau ac awdurdodau/ ar y groes. Mae yr apostol, yn yr ymadrodd hwn, yn cyf- eirio at y gosgorddau buddugoliaethus, yn mha rai yr arweinid y caethion mewn cadwynau o flaen neu ar ol cerbydau y gorchfygwr, a thrwy hyny eu gosod yn agored i bawb syiwi arnynt, trwy ba waith yr oedd Rhufain yndangos uchel- frydigrwydd a balchder ei llywodraeth, ac yn boddloni ucheldrem plentynaidd ei gwrontaid; ond gadewch i ni droi am fynyd oddiwrth ryw ymddangosiadau gwael fel yma, at yr olygfa o'r tu allan i byrth Jerusaíem; ac yno gwelwn un wedi ei hoelio ar y pren fel drwg-weith- redwr, yn cael ei ffieiddio gan ddyn- ion, ac yn wrthodedig gan Dduw, ac yn marw fel un wedi ei orchfygu. Ond edrychwch â liygaid flydd ar y wel- edigaeth fawr hon, a chwi a welwch y buddugoliaethwr yn gorfoleddu â geiriau cyffélyb i'r rhai a ddesgrifir gan y Pro- phwyd Esay: * Pwy yw hwn yn dyfod o Ed'om, yn goch ei ddillad o Bosrah? hwn sydd 'hardd yn ei wisg, yn ymdaith