Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhif. cxv.] GORPHENAF, 1840. [Llyfr x. C OFI AN T Am 11 biawd anttyl, a'r Gweinidog ffyddìon Hugh Ednard Charles, Capel Tŷ-mawriMon, yr hwn a orphcnodd ei .filwriaeth, Rhag. 1, 1839, yn 33 oed; tcedi bod ychydig fros 10 mlynedd yn Bregethwr bymoy a de/nyddiol gyda'r Tre/nyddion Üaljinaidd. GWRTHDDRYCH ein Conant hwn yd- oedd fab i'r Farcb. John Charles, (ìwalchmai, Mon, a Mary ei wraig. Ganwyd ef Hydref 4, 1806. Cafodd bob manteision crefyddol teulaaidd o'i ieuengctyd, (canys y mae y brawd crybwyüedig fel Josuah gynt, efe a'i dylwyth yn gwasanaethu yr Arglwydd,) felly djsgodd ddarllen ei Fibl yn ieu- angc iawn, a mawr oedd y pleser a'r byfrydwch a gymmerai ynddo, a'r defn- ydd a wnai o hono. Cafodd hefyd ychydig o ysgol ddyddîol gyffredin, yn yr hon y dysgodd ysgrifenu yn dda, a darlien, a deali graddau o*r iaith Saesoneg, fel y gallai ddefnyddio gwaith Awdwr yn yr iaith hono yn lled rwydd, yr hyn a ymarferodd yn egniol ac a werthfawrogrwydd yn fawr, yn enwed- ig wedi myned Pf weinidogaeth. Dygwyd ef i fynu yn yr un alwedig- aeth a'i dad, yn Banwr a Lliwydd, yn yr hou alwedigaeth yr arosodd mewn ymostyngiad parchus ac ufudd-dod gweithgar, (ar ol myued yn bregeth- wr) hyd y flwyddyu 1836, pan y pri- odwyd ef gydag Ellin Thomas, Carw- ad, ger llaw Beaumaris: mewn can- lyniad, symudodd o dŷ ei dad i ardai Capel Tỳ-mawr, a bu ei fynediad yno yn sirioldeb yn neillduol Tr eglwys yn y lle hwnw, ac yn radd o adfywìad a chyfodiad ar achos crefydd yn y gym- mydogaeth; ac nid yw yn hawdd barnu na dysgrìfio y golled a gawsant trwy ei symudiad gan angeu o'u plith. Cadwai fasnach mewn tỳ agos i'r capel, Ue y bu ef a* i anwyl briod yn byw yn gysurus iawn, a Uewyrch yr Hollalluog ar eu pabell hyd ddydd ei farwolaeth; ac y mae yn beth nodedig i sylwì fel yr oedd rhagluniaeth fawr y nef, yn cyf- ranu ei bendithìon iddynt i'r fath radd- au ag y gellid dyweyd iddo ef gael yni- Uthro drwy y byd hwn, heb nemawr groesau na phrofedigaethau allanol yn ei dymhor byr. Y mae yn ddiammeu ei bodyn fantais fawr iddo ei fod wedi dysgu bod mor foddiawn y'mha sefyllfa bynag y byddai; yr ydym yn barnu yn sicr y byddai yn gweled ac yn gallu dyweyd bron bob amser, mai 'da y gwnaeth efe bob petb,' a'i fodyn fedd- iannol ar y flydd sydd yn gorchfygu y byd; a braidd na ddywedem iddo ei ddiystyru yn ei wên a'i ẃg. * Anghof- iodd y pethau sydd o'r tu cefia, ac ym- estynodd at y pethau o*r tu blaen; nid ymrwystrodd gyda negesau y bywyd hwn; fel y rhyngodd fodd i'r hwn a'i dewisodd yn 61^^;' a dysgwyd ef i ' arfer y byd hwn, heb ei gamarfer.» Ychydig amser cyn priodi, cafbdd sal- wch trwm, ac wedi iddo wellhau o hono, dechreuodd dewychu yn lled gyflym, a pharhaodd i dewychu yn an- naturiol byd ddiwedd ei oes. Fel dyn, yr ydoedd yn feddianuol ar dymherau oenaidd a cholomenaidd iawn: yr oedd pob arwyddion o dirion- deb a thynerwch ynddo er yn faban, ac yr oeddynt yn blodeuo yn berarogl- aidd ynddo ar hyd ei dymhor, haf a gauaf. Ychydig o gynhyrfiadau nwyd- wyllt a welŵyd ynddo erioedyn y teulu gartref; yr oedd yn anhawdd cael pech- adur mor ddiddichell o ran eì ysbryd ag ef; 'nid absenai â'i dafod, ni wnai ddrwg i'w gymmydog, ac ni dderbynìai enllib yn erbyn ei gymmydog. ■ Pan y coffheid mewn cyfeillach am ryw befli gwaelach na'i gilydd mewn brawû neu gymmydog, prin y cymmerai arno glywed, ac ni roddai un cymmelliadf r ymddyddan fynod yn mlaen; ond gwnai ryw amnaid o deimlad gofidus, a goll- yngai byny heibio. Yr oodd yn aelod gwerthfawr mewn teulu, ynbriod hyn- aws, tyner, a serchog iawn, yn gyfaill mynwesòl, cywir, a flyddlawn, yn fa*-