Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhif. CLI.] GORPHENAF, 1859. [Llyfr XIIL ŵrójjaìíím. PRESENNOLDEB DUW YN EI EGLWYS. GAN Y PARCH. ROBERT HUGHES, GAERWEN. Pan y byddai y Goruchaf yn sefydlu goruchwyliaeth newydd yn ei eglwys, neu ynte yn dwyn gwasanaeth crefydd dan ffurf newydd, ei arfer yn wastad ydoedd ei hanrhegu âg addewidion pen- dant o'i bresennoldeb. Wedi iddo wrth Sinai osod i fyny gynllun ei wasanaeth, efe a addawodd, gan ddy wedyd," Ymhob man lle y ì'hoddwyf gofìàdwriaeth o'm henw, y deuaf atat, ac y'th fendithiaf. A mi a gyfarfyddaf â thi yno, ac a lef- araf wrthyt oddiar y drugareddfa." Felly Crist drachefn, wedi iddo dder- byn ei awdurdod gyfryngol, a ddywed- odd wrth ei ddysgyblion, "Ewch gan hyny, a dysgwch yr holl genedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw y Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd Glân: gan ddysgu iddynt gadw pob peth ar a orchymyn- ais i chwi. Ac wele, yr ydwyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd." Y mae yr addewid hon yn dra gwerth- fawr ar lawer o gyfrifon. Y mae felly ar gyfrif sicrwydd ei chyflawniad, hel- aethrwydd ei chynnwysiad, a meithder ei pharhâd. Gellir prisio gwerth peth- au yn gyô'redin yn ol mesur yr anghen- rheidrwydd am danynt, ac yn ol gradd- au y posiblrwydd i'w cyrhaedd. Y mae yn anmhosibl i beth dianghen- rhaid fod yn beth gwerthfawr; ac y mae yn anmhosibl i beth anghenrheid- iol fod felly ynihob ystyr, oddieithr ei fod yn gyrhaeddadwy. Ónd am bres- ennoldeb Duw ymysg ei bobl, y mae nid yn unig yn anghenrheidiol, ond yn anhebgorol felly; ac nid yn unig yn gyrhaeddadwy, eithr yn sicr; "canys öÿddlawn yw yr Hwn a addawodd." Ymddengys gwerthfawredd y Pres- ennoldeb Dwyfol yn yr ymarferiad âg ordinhadau crefydd, pan ystyriom mai hyny sydd yn gosod mawredd a phryd- ferthwch arnynt. Os meddyliwn am y cymhwysderau allauol dysgleiriaf, ac am y trefniadau eglwysig perffeithiaf, presennoldeb Duw yw enaid y cwbl; hyny sydd yn by whâu ac yn prydferthu y cyfan. Y mae amrywiol wrthddrychau yn cael eu defnyddio yn yr Ysgrythyrau fel arwyddluniau hynod o eglwys Dduw; a dynodir bob amser mai presennoldeb yr Arglwydd ydyw gogoniant y cyfan. Os meddyliwn am ddinas weledigaeth- ol Ezeciel, yr hon y mae ei rhagor- iaethau yn annhraethadwy, ei rhagor- iaeth ]penaf ydyw ei henw. "Canys enw y ddinas o'r dydd hwnw allan fydd, Yr Arglwydd sydd yno." Yr Ar- glwydd sydd yno, yn ei allu i'w ham- ddiffyn, yn ei ddaioni i'w chyfoethogi, ac yn ei ddylanwadau i'w phrydferthu. Ac y mae yno mor gyflawn a pherffaith nes llyncu y ddinas a'r cyfan sydd ynddi yn ei enw anfeidrol ei hun. Oa meddyliwn drachefn am y ddinas a welodd Ioan yn disgyn o'r nef, yr hon y mae ei sylfeini yn gedyrn, ei muriau yn uchel, ei phyrth yn ddysgleirwych, a'i heolydd yn aur pur; eto "yr Ar- glwydd Dduw Hollalluog, a'r Oen, yw ei theml hi. Ac nid rhaid iddi wrth yr haul na'r lleuad i oleuo ynddi: