Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DBYSORFA. Rhif. cm.] AWST, 1859. [Llyfb XITL ŵflrtljato. ÁDDYSG yr aelwyd. GAN Y PAECH. THOMAS LEVI. Y mae rhagolygon a gobeithion y byd yn gorwedd yn ngharitor y genedlaeth o blant sydd yn awr yn codi. Ar yr aelwyd y mae gwir lywodraeth y byd yn cartrefu. Yno y gwneir mwyaf i roi cyfeiriad i fywyä dynion galluocaf y ddaear—ei gwleidyddion, ei dysgawd- wyr, a'i llywodraethwyr. Llefara llawer yn ddiystyr am y plant a'u haddysgiad, heb feddwl am eu cysylltiad dyfodol â'r byd. Amryw flynyddoedd yn oL wrtb weled planigfëydd è'ang yma a thraw dros wyneb y wlad, gallesid meddwl nad oedd y planigion coed ieuainc ac eiddil dda i ddim oddieithr cadw lle, a chynnyrchu pryder a gofal yn meddyliau eu perchenogion. Ünd erbyn heddyw, y planigion hyny ydynt attegion masnach a chyfleusderau y byd: â hwy yr adeiledir annedd-dai, ysgoldai, a cholegau; ar eu cefnau hwy y mae y rheilffordd yn gorwedd; a thros eu hysgwyddau hwy y mae y telegraph yn cerdded. Öyffelyb yw sefyllfa y miloedd plant ydynt yn Uenwi pob ystrŷd a chongl mewn tref a gwlad. Arnynt hwy mae llygad y byd, a bydd ei holl orchwylion wedi llithro yn fuan ar eu hysgwyddau, a'i ly wodraeth yn eu dwylaw. Y mae pob dyn sydd yn teimlo dyddordeb yn sefyllfa a dyrchafiad ei wlad yn taflu golwg bryderus ymlaen at y genedl sydd yn codi, ac yn awyddus am ei chanfod yn deilwng o'r ymddiried sydd ar gael ei drosglwyddo iddi, Und dylid cofio fod a fyno yr oes flaenorol â ffurfio ei nodweddiad. Y mae cysylltiad pwysig rhwng y naül oes a'r llall. " Un genedlaeth a ä ym- aith, a chenedlaeth arall a ddaw." Ac eto, bydd yr oes a ddaw ar ol yn rhyw adgynnyrchiad o'r hon a aeth ymaith. Y mae yr un bresennol yn argraffu ei delw o hyd ar yr un ddyfodol. Bydd yr hadau sydd eisoes wedi eu hau, ac yn cael eu hau bob dydd, yn meddyHau y genedl sydd yn codi, yn dwyn ffrwyth yn y byd yn hir wedi i'r genedlaeth hon fyned i ffordd yr holl ddaear. Nid oes un genedlaeth, fwy na pherson, yn byw iddi ei hun, ond i'r byd, ac i oesau Êell i ddyfod. Y mae ystyriaeth o yn yn gymhelliad i lalur arbenig gydag addysgiad y plant. _ Buasai yn dda genym pe gwnaethai ychydig o nodiadau ar hynyma yn y Djrysorpa gyffröi y rhai y perthyn iddynt, i geisio gwneyd addysg yr aelwyd yn fwy effeithiol i'r míloedd sydd yn codi. Ymlaenaf oll, cofier fod y plant yn derbyn argraffiadau dyfnìon yn ieu- ainc iawn. Fe allai mai yn ei ddydd- iau ieuengaf y mae dyn yn derbyn yr argraffmdau dyfnaf. Tymmor pwysicaf oes dyn yw tymmor babandod, oyn dechreti siarad—cyn dechreu gollwög dim allan, ond derbyn y cwbl i mewn. Y mae y dylanwad a dderbynla yr adeg hon yn rhoi ysgogiad nerthol iddo ymlaen neu yn ol—er da neu er drwg—a hyny cyn y byddo ef yn abl taflu un goes heibio ỳ llall. Tybia rhai dynion o awdurdod uchel, fod