Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhip. CLXXVI.] AWST, 1861. [Llyfr XV. ìíx%ú}}ẁmx. SYLFAEN A GORUWCHADEILADAETH Y WEINIDOGAETH GRISTIONOGOL. UYNGHOR A DRADDODWYD I'R BRODYR A ORDEINIWYD YN NGHYMDEITHASFA MACHYNLLETH, MEHEFIN 12, 1861, GAN Y PARCH. JOHN PARRY, BALA. 1 Cor. iii. 10: " Ond edryched pob uu pa wedd y mae yn goruwchadeiladu." àt ddysgawdwyr crefyddol a gweiui- dogipn yr efengyl y inae cyfeiriad cyntaf y geiriau hyn. Yr oedd gauathrawon wedi ymwthio i'r eglwys yn Corinth, ac wedi llwyddo trwy ddoethineb y byd hwn i hudo eneidiau oddiwrth y syiul- rwydd sydd yn Nghrist. Y mae Paul yn gosod ei wyneb yn eu herbyn gyda phenderfyniad dyn wedi ei hollol fedd- iannu gan argyhoeddiad o'r gwirionedd, ;i chariad ato. Yr oedd yn Corinth rai yn cyffesu Crist fel sylfaen iachawdwr- iaeth pechadur, ac eto, yn cymysgu â hyny bethau ammheus, a'r cyfryw ag nad oedd yn "cyttuno âg iachus eiriau i-iii Harglwydd Iesu Grist." Nid oedd dim cyfatebrwydd rhwng y sylfaen â'r hyn a adeiladent arni. Tra y profFesent ymddiried—ac y mae iaith yr Apostol yn caniatfiu i ni dybied y gallasent, o bosibl, wneyd hyny gyda gradd o ddi- dwylledd—tra, meddwn, y proffesent ymddiried yn y maen a osododd Duw yn Sion, yr oeddynt er hyny yn adeil- adu ar y sylfaen yr hjoi oedd yn anghy- íaddas i'w natur. Yn ngwyneb y perygl yma, y mae yr Apostol yn eu cynghori yn y geiriau hyn, "Edry'ched pob un pa wedd y mae yn goruwchadeiladu." Y uiae y cynghor hwn yn cyfeirio yn gyntaf at y gofal anghenrheidiol i adeiladu ar ^ylfaen o osocuad Dwyfol, ac yn ail at y gwyliadwriaeth priodol i adeüadu defn- I yddiau cymhwys ar y sylfaeni—" aur, arian, meini gẅerthfawr." I. Y mae y Duw rnawr o'i ras wedi penderfynu codi teml ar y ddaear—teml iddo ei hun. Ac y mae yn eiddigeddus dros ei diogelwch, ei phurdeb, a'i gogon- iaut. "Os llygraneb dend Dduw, Duw a lygra hwnw." Prif waith Duw ar y ddaear ydyw adeiladu Sion. Oddiwrth hyn y mae yn dysgwyl ef brif ogoniant. Ÿr ydych chwi, fy mrodyr, wedi cael yr anrhydedd goruchel o fod yn gydweith- wyr Duw yn yr adeüadaeth hon. Mewn adeilad neu deml, y mae yn anghenrheidiol yn gyntaf oll fod iddi sylfaen. Yn yr adeilad hon y mae y sylfaen wedi ei gosod. "Wele fi," medd Duw, "yn sylfaenumaen ynSion, sylfaen safadwy." A "sylfaen arall nis gaH neb ei gosod." Un sylfaen sydd; y mae hono wedi ei gosod; ac y mae hi yn anghyfhewidiol byth. "Nis gall neb ei gosod heblaw yr un a osodwyd, yr hon 5w Iesu Grist" Un Crist a eneiniodd uw Dad,—sef Iesu o Nazareth, mab y forwyn, yr hwn a rodiodd oddiamgylcJa gan wneuthur daioni, gan gyhoeddi ef- engyl y deyrnas,—yr hwn a aned yn Bethlehem, ac a fu farw ar Galfaria—*efe, sef lesu Grist ydyw Eneiniog y Tad. Y mae yr Apostol yn ei osod afian yn holl gyflawnder ei berson a'i swyddau—«Iesú Grist," ac weithiau ein "Harglwydd