Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Ehip. CLXXXI.] IONAWR, 1862. [Llyfr XVI. '&tMtyjẁm. YGHYDIG SYLWADAU AR RAGRITH. GAN Y PARCH. L. EDWARDS, M.A., BALA. Pan fyddom yii meddwl gyda gradd o ystyriaetli a theimlad crefyddol am agwedd yr oes yr ydym yn byw ynddi, y mae yn naturiol i ni ofyn i ni ein hunain, Pe buasai Iesu Grist ar y ddaear yn y dyddiau hyn, pa beth fuasai piif faterion ei weinidogaeth ? Pa fodd y buasai yn llefaru gyda golwg ar yr am- rywiol ddosbartbiadau o grefyddwyr yn ein gwlad ? Pa ddrygau yn fwyaf neíll- duoí y buasai yn cyfeirio atynt, ac yn cyboeddi gwae ar y rbai sydd yn euog o bonynt ? Ac nid yw y gofyniadau hyn mor anmherthynasol nac mor anat- ebadwy ag y gallant ymddangos ar y cyntaf; oblegid y cwbl sydd yn anghen- rheidiol, er mwyn cael atebiad cyflawn iddynt, yw cofio fod Iesu Grist yr un heddyw â phan oedd yn teithio ocldi- amgylch gan athrawiaethu i'r tyrfäoedd yn Palestina, a'i fod yn awr yn ein plith yn Uefaru wrthym trwy y gair ysgrifen- edig mor wirioneddol â phe buasem yn ei glywed ef ei hun yn traddodi y cynghorioii a'r rhybuddion a adroddir i ni gan yr efengylwyr. Llyfr i bob oes hyd ddiwedd y byd yw y Bibl; ac y mae pob meddwl sydd ynddo yn an- farwol. Pan y mae yn cyffwrdd âg am- gylchiadau lleol ac amserol, y mae yn ein harwain trwyddynt at wirioneddau tra- gywyddol: ac yn enwedig yn mhregeth- äu Crist, yr amcan mawr a chyson oedd dyrchafu meddyhau dynion at yr ysbryd- °lj y sylweddol, a'r anghyfnewidiol. 08 yw hyn yn wir, mae yn canlyn fod yn rhaid i ni gredu mai y pechod y Uaŵe Iesu Grist yn awr, fel yn y dyddiau hyny, yn ei fîìeiddio uwchlaw pob pech- od arall, y pechod y dylem ddywedyd mwyaf yn ei erbyn, a gwylied rhagddo yn fwyàf gochelgar, yw rhagrith. Nid j oes un pechod i'w anwesu na'i esgusodi. I I'r graddau y cawu olwg ar ysbrydol- ; rwydd eyfraith Duw, i'r graddau liyny i y canfyddwu fod drwg nas gellir ei am- gyífred ymhob pechod. Erhynybyddai | yn dda i ni ystyried, fod rhyw i'ath o '■ gasineb a ddangosir yn erbyn pechodau pobl eraiU, yn arwydd ac yn brawf o bechod mwy yiiom ni em hunain. Os ydym yn tybied ein bod yn rhagori ar eraill, os ydym yn tueddu yn y gradd lleiaf i ddarost\vng eraill er mwyn dyr- chafu ein hunain, os oes ynom ryw awydd i ddiolch i Dduw nad ydym'ni " fel y mae dynion eraill, neu fel y pub- lican h^yn chwaith," y mae yn bryd i ni gilio yn ol gyda brys, mewn dychi'yn a hunan-fiìeiddiad; oblegid yr ydym yn ynryl bod, os nad ydym eisoes, yn waeth yn nghyfrif Duw na'r publicanod a'r pechaduriaid. Tra y mae cydnabydd- iaetli â hanes ac addysg yr Arglwydd lesu yn dangos mwy'o ddrwg ymhob pechod, y mae ar yr un pryd yn ein gwn- eutlmr }m hwyrfiydig i farnu ein cyd- ddynion, yn llanw ein meddwl â char- iad at y natur ddynol yn y wedd iselaf a welir arni, ac yn peri i ni fod jm add- fwyn, yn dosturiol, yn hirymarhòus, tuag at bawb ond y rhagrithiwr. Nid yw yn ormod dyweyd, y dylem garu y ddynoliaeth yn ei chyfìwr iselaf; oblegid rhodd- " felly y carodd Duw y byd, fel y odd efe ei uniganedig Fab: ' ac fe