Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhip. 530.] RHAGFYR, 1874. [Llyfs XLIV. YSBRYD CENADOL. GAN Y PARCH. OWEN JONE3, B.A., LIYERPOOL. Ysttr y gair cenad ydyw, un yn myned ar neges dros un arall, a'r neges a ym- ddiriedwyd iddo yw y genadwri. Y mae y gair hwn wedi ei sancteìddio gan y Personau Dwyfol yn y Drindod sanctaidd. Y mae y Tad wedi anfon y Mab. Gwelwn yn yr ymgnawdoliad "genad" anfonedig y Tad i'r byd, gyda'r neges bwysig o fynegu ei ewyllys, dadguddio ei gymeriad, a gwneutbur cymmod dros anwiredd y byd. Y mae yr Ysbryd Glân yn anfonedig y Tad a'r Mab. Gwelwn ar ddydd y Pentecost, wedi i'r Iesu gael ei ogoneddu, addewid y Tad yn dechreu cael ei chyflawni, ac Ysbryd Crist a'i ddawn yn cael ei dderbyn gan y dysgyblion yn Jeru- salem. Y mae y genadaeth hon wedi rhoddi rhyw neillduad i'r enw, ac y mae cysylltiad hanfodol rhyngddi â chenadaeth ac ysbryd cenadol hyd ddiwedd oesoedd y byd. Nid yw cy- maint ag sydd ar y ddaear o hyn ond parhâd o'r gweithrediad hwnw o eiddo y Tad, a welir yn yr ymgnawdoliad ac yn nhywalltiad yr Ysbryd. A'r un yw y neges; y mae yr amcan yn y cwbl yn un, sef dychweliad byd gwrthgiliedig at Dduw. Yn ei " weddi archoffeiriadol," dywed rlesu wrth y Tad, * Fel yr anfonaist i'r byd, felly yr anfonais innau hwythau i'r byd." Dywed hefyd wrth ei ddysgyblion ar ol ei adgyfodiad, " Tangneìedd i chwi ; megys y danfon- odd y Tad fi, yr wyf finnau yn eich danfon chwi." A phan oedd ar eu gadael i ogoniant^ ^t yr Hwn a'i han- fonodd, dywedodd, "Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear; ewch, gan hyny, a dysgwch yr holí genedloedd......ac wele, yr wyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd." Y mae yr awdurdod wedi ei derbyn gan yr Iesu, y mae y gorehymyn wedi ei roddi ganddo i'w ddysgyblion, ac y mae yr addewid neu y dystiolaeth o'i bresennoldeb wedi ei gwirio, a'r oll yn aros yn eu grym, ac i barhâu hyd hes y bydd yr amcan mawr wedi ei gyrhaedd yn llwyr, i deyrnasoedd y byd ddyfod " yn eiddo ein Harglwydd ni a'i Grist ef." Ac fr graddau y credir ac ysylweddolir hyn yn yr eglwys, y bydd ei gweithgarwch a'i hymdrech i gyrhaedd yr amcan hwn. Wrth i ni edrych yn ol, a chymeryd golwg ar hanes yreglwys "o'r dydd y derbyniwyd yr Iesu i fyny, wedi iddö trwy yr Ysbryd Glân roddi gorchymyn- ioni'r apostoüon a etholasai,"nis gallwtí lai na synu arhyfeddu. Oawn fod ÿ dysgyblion wedi derbyn yr Ysbryd Glân a'i ddoniau, ac wedi myned allan yn ngrym gorchymyn yr Iesu, ac o dan eneiniad Ysbryd yriesu, gyda'r fath egni, ymroddiad, a phenderfyniad, nes i ranau helaeth o Asia, Affrica, äc Ewrop—^yr holl fyd adnabyddus ypryd hwnw,—gael eu "llenwi âg efengyl Crist," ymhell cyn* terfyn yr oes apostolaidd. Ond am y pymtheg, ac yn wir y deunaw can' mlynedd düyhol, ni chawn fod efengyleiddiad y byd yn ehangu ond ychydig ar y terfynau a ennillodd mewn un oes. Gwelwn yn îí m