Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. .—»©>«— M.DCCC. XXXVI. RlHF. LXVIl] ©.©mipn [Llyfr Ví. {Parhad tu dalen 16Ì.J Fe allai y bydd rhai yn barnu ein bod yn camgymmeryd yn fawr, osydyin yn barnu mai y seithfed fil o flynyddoedd o oes y byd fydd y Mil Biynyddoedd, oherwydd fod hyny yn ei dafiu mor bell o'r amser presennol, ac hefyd mor bellymlaen wedi amser cwymp Anghrist. Ond ystyried y cyfryw rai gymmaint o waith sydd etto i'w wneud yn y byd cyn y del yr amser hyfryd hwnw ; ac mor araf y mae y gwaith mawr o ddiwygio y byd yn myn- ed ymiaen. I'r dyben o roddi golygiad i'n darllen- wyr ar agwedd trigolion y byd, a'r gwaith mawr sydd i gael ei wneud cyn y del y Mil Blynyddoedd, dodwn ynia ger eu bron y daflen ganlynol:— Nifer trigolion y byd, Yn Ewrop, y mae . 170,000,000 Yu Asia, y inae .... 550,000,000 ' Yn Aflrica y mae.. 150,000,000 Y n A merica y m ae.. 130,000,000 Yn yr holl fyd y mae.. 1000,000,000 Neu, er mwyn yr annysgedig, fel hyn, Yn Ewrop y mae cant a deg a thri- ugain o filiwnau o drigolion. Yn Asia y mae pum cant a deg a deu- gain o filiwnau. Yn Ad'rica y mae cant a deg a deugain o filiwnau. Yn Auierica y mae cant a deg ar hug- ain o filiwnau o drigolion. Yn yr holl fyd, y mae mil o filiwnau o drigolion, neu yr hyn sydd yr un peth, mil o fil o filoedd. Rhaniad trigolion y byd, yn ol eu cref- yddau sy fel hyn. Cristionogion mewn enw 175,000,000 Iuddewon............. 9,000,000 Maìiometaniaid........ 160,000,000 Paganiaid.„....,...■..., 656,000,000 Y Cyfan.............. 1000,000,000 Ond cofiwn fod miliwnau o Babistiaid yn y nifer uchod o Gristionogion mewn enw ; ac felly ychydig iawn sydd o Brot- estaniaid etto yn y byd. Neu, er mwyn yr annysgedig, fel hyn:— Nifery Cristionogion mewn enw, sef y Pabistiaid a'r Protestaniaid ynghyd, yd- yw cant a phymtheg a thriugain o filiwn- au. Nifer yrluddewon, nawrmiliwn. Nifer y Mahometaniáid, cant a thriug- ain o filiwnau. Nifer y Paganiaid, chwe chant ac un- arbymtheg a deugain o filiwnau. Ac yn ol y cyfrif hwn, bwriwch fod dyn yn myned i gyfrif y Paganiaid. Efe a gyfrifai driugain mewn munud ; a thair mil a chwe chant meun awr; a dodi deng awr mewn diwrnod, (canys byddai raid iddo gael amser i fwryta, gorphwys a chysgu,) fe gyfrifai un íll ar bymtheg ar hugain mewn diwrnod. Doder chwe di- wrnod yn yr wythnos, fe gyfrifai ddau gant ac unarbymtheg o filoedd mevin wythnos ; ac un miliwn arddeg, dau gant, a deuddeg ar hugain o filoedd mewn blwyddyn. Yn awr, meddyliwch am hyn, fe fyddai y gwr hwnw ymhell dros dair blynedd ar bymiheg a deugain yn cyf- rifyPaganiaidl A'rrhaihyny oll heb glywed erioed am Fab Duw. Ac hefyd, fe fyddai yn agos i flwyddyn yn cyfrif yr luddewon. A thros bedair blynedd ar ddeg yn cyfrif y Mahometan- iaid. Yr hyn ynghyd a wna dros dair blynedd arddeg a thriugain o amser yn eu cyfrif hwynt holl. Onid oes ar y ddaear, gan hyuy, waith mawr i'w wneuthur cyn y llenwir hi o Wybodaeth yr Arglwydd? Gofyned pob un i'w fynwes ei hun, Pa 2C