Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. B.HIF. LXXIV.] CHWEFROR, 1837. [Llyfr. VII. 7 BITCHS&ülITH CRISTIOBTOGOÎ.. RHIF. II. —»(âK<— Oanwyd yr enwog Joîin Huss yn agos i Prague,yn Bohemia, tua'r flwyddyn 1376, óiewn pentref a elwid Hussinez, argyflìn- Jau y Goedwig üdu. Nid oes genym un sail i gasglu fod ei riaint yn rhestredig yn nîJ'sg" goludogion daear ; ond y mae yn eglur fod ei dad yn wr call, ac iddo gy- meryd gofal mawr am gynnysgaeddu ei fab John â digonedd o faeteision dysg- «idiaeth, costied a gostiai; ac yntau a wnaeth ddefnydd tra rhagorol o'r man- îeision hyn, trwy gyssegru ei alluoedd meddyliol cedyrn, i efrydiaeth ddiflin, ar amryfal gangenhau dysg, ynMhrif Ath- rofa Prague, lle yr ennillodd y radd o Wyryf yn y Celfyddydau yn y flwyddyn Ì393; Athraw yn y Celfyddydau yn 1395; aGwyryf mewn Dwyfddysg, yn 1408. A thra ydoedd yr urddau Athrofäol hyn yn cael eu pentyruarno, efe a gafodd fywiol- Jaeth eglwysig. Un o ddinaswyrgoJudog Prague, John Mulheym, a adeiladodd gapel, ac a'i galwodd Bethlehem; ac wedi ei waddoh yn dda, efe a bennododd Huss i fod yn weinidog ynddo. Y pryd hyn yr oedd Huss yn babydd trwyadl, heb weled goleuni gwawr y diwygiad, yr hon oèdd wedi tori allan trwy Wicliff yn íjloegr, ac yn ymledu trwy wladwriaethau y Cyfandir, ond oedd hyd yma heb gyr- haedd Bohemia. Ond tua'r flwyddyn *382, efe a gafodd afael ar rai o ysgrifen- adau Wieliff, drwy ryw bendefig ieuanc ° Bohemia ; ac wrth eu darllen gadaw- sant y fath argraff argyhoeddiadol ar ei feddwl, fel y dywedai am Wicliff byth tvedi hyn, mai angel a anfonasid o'r nef i oleuo dynion .ydoedd; a mynych ei clyw- ^yd yn mysg ei gyfeillion, yn dywed^d am ei gyfarfyddiad âg ysgrifenadau y di- wygiwr hwnw, mai tro mwyaf ffawdus ei ees ydoedd. Ni bu Huss yn hir we'di dechreu ym- gydnabod âg ysgrifenadau Wicliff, heb yniroddi a'i holl egni i ddynoethi llygriad- au,a dychanu drygweddau yr offeiriaid o'r gwahanol raddau, dospeirth, ac nrddau. Cyfeiriai sylw y bobl gyda hyawdledd a dewrder carwr cyfiawnder, at gam ly wodr- aeth yr eglwys, a cham fucheddau yr eg- lwyswyr: a gresynai wrth gyflwr truenus ei gydwladwyr oeddynt dan Iywodraeth y naill, a dylanwad y llall. Mae yn ddiddadl fod ansawdd crefydd yn isel iawn yn Bohemiatua'r pryd hwn ; a chyda phriodoldeb mawr y gellid cym- hwyso cwyn yr Arglwydd, yn erbyn bugeiliaid drwg, at weinidogion crefydd yn Bohemia, ' Y bugeiliaid a'u porthas- ant eu hunain, ac ni porthasant fy mhraidd,'—Gwel Ezec. xxxir. 1, &c, Bywiolaethau eglwysig a brynid ac a werthid fel maesydd neu dai; a gwneid masnach o grefydd ei hun, a'r pethau a alwent ar enw doniau Duw, a werthid am arian : gan hyny, nid pedd mor ryfedd i Huss dynu sylw cyffredinol, a chael gwrandawiad ysiyriol yn y dref a'i ham- gylchoedd, tra yr oedd yn ymosod yn er- byn y fath annhrefn a hyn; ac felly y gwelwn ef yn fuan yn ben plaid gref, ac amryw o ddysgedigion y Brif Âthrofa yn ddylynwyr iddo. Cyfieithiwyd cyfansoddiadau Wicliff i dafodiaith y Sclafoniaid gan Ierome o Prague, tua'r pryd hwn, a'r llyfrau hyn a ddarllenid gyda'r awyddfryd mwyaf drwy holl fröydd Bohemia. Mae yn debyg i Ierome gael cydnabyddiaeth âg ysgrifau Wicliff, tra fu yn mhrif athrofa Rhydych- ain ; ac wedi dychwelyd yn ol i Prague, efe a'i cyhoedd-addefai ei hun yn bleid- iwr i'r Diwygwyr Bohemiaidd, ar y rhai