Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN BmF. 5.] MAI, 1883. [Ctí. XXXYL JAMES WATT. )'R rlian fwyaf, os nad yr oll o'n darllenwyr, y mae enw James Watt yn ddigon adnabyddus fel perffeithydd, os nad, yn wir, fel dyfeisydd newydd yr agerbeiriant; ac fel y cyfryw, y mae _ .____yn enw digon teilwng o gael ei gadw ar lechres fyth-gadwedig ac adnabyddus enwogion Prydain Fawr. Ganwyd James Watt yn Greenock, yn y flwyddyn 1736. Tr oedd ei dad yn farsiandwr ac yn hedd-ynad yn y dref hono, ac felly fe gafodd y bachgen ei eni mewn amgylchiadau teu- luol a chymdeithasol cyaurus a pharchus iawn. Dangosodd James Watt duedd gjref iawn, pan nad oedd eto ond bachgen bychan, at yr efrydiaethau a'r galwedigaethau tyny trwy y rhai y daeth mor enwog wedi iddo fyned yn ddyn. ■Etifeddodd Watt ieuanc ei hoffder o maihematics oddiwrth ei daid a'i ewythr, y rhai oeddent athrawon yn y wyddoniaeth