Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN, Bhif. 7.] GORPHENAF, 1883. [Cyf XXXVI. GEORGE WASHINGTON. JAE yn perthyn i Unol Dalaethau Ameriea hanes ardderchog, o'r dyddordeb dyfnaf a'r addysg lawnaf. Ni fu yn llywodraethu arnynt erioed frenin na hrenhines, yniherawdwr nae yinherodres ; er hyny yr oedd y gwyr mawr y bu awenau llywodraeth y Talaethau Unedig yn eu dwylaw yn perehenogi y rhinweddau dysglaer a'r galluoedd mawrion hyny sydd yn gwneuthur brenhinoedd ac ymherawdwyr yn ystyr uchat y geiriau. Yr oeddent yn wŷr mawr, yn wŷr mawr da. Nis gellir dyweyd fod pob dyn mawr yn ddyn da ; ond gŵyr felly ydoedd Llywyddion Unoì Dalaethau Ameriea; a'r blaenaf o honynt, o ran amser, os nad hefyd mewn gwir fawredd, ydoedd y gŵr mawr y mae ei ddarlun yn blaenori yr ysgríf hon.