Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN Ehif. 12.] RHAGFYR, 1883. [Cyf. XXXVI. MARTIN LUTHER. ^EDWAR can' mlynedd i'r ddegfed dydd o'r mis hwn (Tachwedd), fe roddodd Duw i Hans a Gretha (John a Margaret) Irnther eu niab cyntaf-anedig, rr hwn a fedyddiwyd y dydd canlynol yn Eglwys _________3t. Pedr, Eisleben, ac a dderbyniodd yr enw Martin, am ddarf od ei eni yn nghyf nos dydd St. Martin o Tours. Bu y baban hwnw fyw i ddyfod y diwygiwr mwyaf a welodd y byd er dyddiau yr apostolion, ac un o'r dynion mwyaf a goreu ar lechres hanesyddiaeth Ewrop er sefydliad Cristionog- aeth ,• ac ar y dyddiad a nodwyd (Tachwedd 10) a'r dyddiau canlynol, bydd Protestaniaid y byd Cristionogol yn uno i anrhydeddu ei goffadwriaeth. Gyda phriodoldeb neillduol gan hyny yr addurnir y Winllan y mis hwn a darlun o'r diwygiwr mawr, tra y ceisir hefyd ddodi yn nghyd ychydig nodion o brif ddigwyddiadau ei fywyd. Miner oedd tad Martin Luther; ac er nad ellir dyweyd fod ei rieni yn dlodion, yn ystyr arferol y gair, eto yr oedd eu