Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN Rhif. ij.j MEHEFIN, 1884. [Cvf XXXVII. H U G H MILLER. MAE Ysgotland wedi rhoddi llawer o feibion enwog iawn erioed i wasanaethn gwyddoniaetli a Uenyddiaeth; ac un o'r rhai hynotaf o honynt, ar lawer o gyfrifon, ydoedd y gŵr y mae ei ddarlun yn addurno y rhifyn hwn o'r Winllan. Prin y byddai yn bosibl dyfod o hyd i lyfr bywgraffyddol mwy dwfn-ddyddorol ac addysgiadol na My Schools and Sclwolmastcrs, un o'r pethau goreu a mwyaf poblogaidd o'r fath a gylioeddwyd erioed. Yr ydym yn galonog yn argymhell y llyfr hwn i'n darllenwyr gan sierhau iddynt y cant wledd iachus uwch ei ben. Hyd nes y eeir cf dodwn yma fraslun o'i fywyd a'i waith. Ganwyd Hugh Miller yn Cromarty. Ysgotland, Hydref 10, 1802. Mab i forwi1 ydoedd—yn wir. morwyr glewion ocdd ei daid a'i hendaid Collwyd ei dad a'r dwylaw oll yn ei sloof) ei hun ar greigiau Findhorn. a gadawyd ef yn amddifad t>'i ofal a'i nawdd pan nad cedd eto ond pum' mlwydd oed.