Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

T WINLLAN, Rhif 3.] MAWRTH, 1896. [Cyf. XLIX. EIN HORIEL. III.—MR. EDWARD JONES (GWAENYS). JAE yn hyfryd- wch genym gyflwyno i'n darllenwyr ddarlun, ac ychydig o hanes Gwaenys, yr hwn sydd yn un o leyg- wyr parchusaf a mwyaf teyrngarol yr enwad, ac yn un o wŷr mwyaf blaenllaw a defnyddiol yr achos yn Nghylchdaith Shaw Street, Liver- pool. Un o feibion glew Swydd Callestr ydyw Mr. Edward Jones, a mab ydyw i'r diwedd- ar Mr. Edward Jones, Gwaenysgor, Cylch daith Llanasa; ac y mae yntau, fel ar- glwyddi y greadig- aeth yn gyffredin, wedi mabwysiadu darn blaenaf enw ei fro enedigol fel y ffugenw wrth ba un yr adwaenir ef mewn cylchoedd eang, ac amrywiol, yn mhell ac agos. Nid ydym eto wedi cael boddhad i'n hymchwil a'n hymoliad am darddiad ystyr yr enw " Gwaenysgor," ond y mae yn gof genym glywed yr hybarch " John Thomas o'r Cwm," pan yn eistctid gydag ef uwchben cwpanaid o de yn nhŷ un o'r brodyr yn