Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

T WINLLAN, Rhif 6.] MEHEFIN, 1897, [Cyf. L. EIN HORIEL. VI. -Y PARCH. OWEN HUGHF.S, CENHADWR CYMREIG LANCASHIRE. ARLUN un o íech- gyn glew ardal B r a i c h Talog, Tregarth, geir yn yr Or- iel am y mis hwn. I fod yn fanwl dylem dd'weyd mai yn y tŷ agosaf i ochr ogleddol Capel Shiloh,Tregarth,y gwoaeth Mr Hughes ei ymddangosiad cyntaf ar y blaned hon. Ond symudodd ei deulu i fyw i Fraich Talog pau nad oedd ond baban. Rhyfedd meddwl gy- maint o ddyuion amlwg mewn gwahanol gyfeir- iadau sydd wedi codi o ardal mor fechan. Yno —y drws nesaf i hen gartref Mr. Hughes—y trigianai Gutyn Peris, ac y magwyd ei fab talentog - Ellis Griffith Williams—bardd a llenor fel ei dad, ac ysgolfeistr a phregethwr gyda hyny. Brodor o'r un ardal oedd Owen Pritchard—pregethwr cynorthwyol defnyddiol yn ei ddydd __ac yno y dygwyd i fyny ei wyrion—y diweddar Barch. Richard Hughes, a'r Parch. Hugh Hughes (Caernarfon ar hyn o bryd), ynghyd a'r diweddar Barch. Thomas GrifBths, ac amryw o enwog- ion eraill y gellid eu henwi.