Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. IlHir, 7. Gorphenhaf, 1949. Cyf. I. Y RAILWAY NAVIGATOR; SEF BER HANES AM ROBEB.T BLAKE. Y mae meddwl am y waith gyntaf ag y gwelsom Robert Blake,* yn dwyn i'n cof ddyn ieuanc tua thair-ar- hugain oed, yn agos i chwe troedfedd o daldra, o wyneb- pryd agored a siriol, â hugan wen lân dros ei ddillad gwaith, yn eistedd gan wrando yn astud a difrifol ar bre- geth a draddodid yn Nghapel y Wesleyaid yn Crediton, gan y Parch. Joseph Wood, o Birmingham. Y testyn oedd " Gwerthfawr waed Crist." Y pwnc a feddalhaodd galon miliynau, a gafodd ei briodol effaith ar galon Ro- bert: meddyliai am ei ffyrdd, ac adgofion o'r hyu a aethai heibio a lanwai ei feddwl âg euogrwydd blin; crynai gerbron Duw, tra yroedd afonydd o ddagrau yn arddangos ei alar dwys am bechu o hono yn erbyn ei Arglwydd. Yn ystod y cyfarfod gweddio ar ol y bregeth, efe a ymdrechai yn daer mewn gweddi ar Dduw am faddeuant, pryd yr annogid ef gan y gweinidog a'r hanesydd i edrych at Oen Duw, ac ymorphwys ar Grist yn unig am iachawdwr- iaeth. Efe a gredodd yn Nghrist, ac a gafodd drugaredd; drylliwyd ei gadwynau, a rhyddhawyd ei enaid. Cyfod- odd oddiar ei liniau yn ddyn newydd yn Nghrist Iesu, a dechreuodd foliannu Duw yn nghanol cynulleidfa fawr. Cymerth hyn le ar y 19eg o Ionawr, 1846. Wrth gofnodi yr amgylchiad hwn efe a ddywed: " Y fath amser ded- wydd i mi oedd hwnw! mor felys yw cofio am dano!" Adnabuwyd yn fuan yn mysg y gweithwyr ei fod ef yn ddyn arall: yr oedd ei ymddygiad a'i ymddyddanion sir- iol a hawddgar yn dangos fod cyfnewidiad wedi cymeryd * Yr hanes uchod a gymerwyd o lyfryn a ysgrifenwyd yn y Saesonaeg gan y Parch. George Curnoch, Gweinidog Wesìeyaidd, yn cynwys Cofiant helaethach am y dyn ieuanc rhagorol hwn. 7 R. W.