Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhif. 11. Tachwedd, 1849. Cyf. II. HAWL CORFF NEU GYFUNDEB CREFYDDOL. Rhyw ysgrifenydd tra medrus yn y "Drysorfa," o fis i fis, a esyd allan drefniadau cyfansoddol Corff y Method- istiaid Calfinaidd, dan yr enw '' Traethawd ar y Gym- deithasfa Chwarterol." Y mae amrai bethau yn cael eu trin a ddengys hawl y Corff hwnw, yn gyfansoddedig yn y Gymdeithasfa, yn debyg i hawl y Corff Wesleyaidd, yn gyfausoddedig yn y Gynadledd, neu eu Conference: ac y mae yr un rhesymau, a'r un dull o lefaru, yn gymhwys- iadol i'rnaill a'r lla.ll. " Rhan fawr arall o'i gwaith," sef y Gymdeithasfa, neu y Conference, " yw arolygu yr holl eglwysi, yr Ysgolion Sabbothol, achyfoethneu feddiannau neillduedig a pherthynol i'r Corff. Y rhai hyn ydynt egluredig yn ein testyn; ond y mae pethau ereill yn bresenol nad oeddynt mewn bod, ond yn unig mewn egwyddor, pan gyi'ansoddwyd ef, megys Addysg Athro- faol i Bregethwyr, a'r Achos Cenhadol Tramor. Cymer- wn olwg ar y pethau hyn,— "1. Holl eglwysi y Cyfundeb. 2. Yr Ysgolion Sab- bothol. 3. Meddiannau perthynol i achos Crist. Y mae y pethau hyn yn ngofal y Gymdeithasfa—'y Conference,' i'w diogelu i'r achos, a'u cynyddu er lles iddo. Y mae 456 o gapeli, heblaw ysgoldai, yn perthyn i Gorff y Methodistiaid Calfinaidd, y rhai ydynt yn werth tua £273,600;" ac yn perthyn i'r Methodistiaid Wesleyaidd oddeutu 12,000 o gapeli ac ysgoldai, y rhai ydynt yn werth tua £3,468,000, neu chwaneg. "4. Cynyrch yr eisteddleoedd, yr hyn sydd yn ddiau dros £6,500 yn flynyddol," yn y Corff Calfinaidd; ac yn y Corff Wes- leyaidd tua £500,000 yn flynyddol. " Y mae y miloedd hyn dan ofal y Gymdeithasfa, 'a'r Conf'erence,' i'w cy- mhwyso at eu priodol ddyben, sef cynal y weinidogaeth.