Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhif.8. Awsí, ISÍÌO. Cyf. III. SAMUEL HICK. Dichon nad oes neb o ddarllenwyr ein misolyn bychan Cymreig, na ddarllenodd neu a glywodd am Samuel, neu fel y gelwid ef fynychaf, <! Samy Hick," y gôf; ac yn wir yr oedd ef ei hun wedi ymarí'er cymaint â chael ei alw f'elly, í'el mai prin y deallai mai efe a feddylid pe galwesid ef yn Mr. Hick, neu Samuel—dim ond Samy, neu Samy Hick, bob amser. Pregethwr Cynorthwyol oedd ef, ac un tra hynod, mòr hynod na luniodd natur a gras yr un arall tebyg iddo, Yr oedd ei ymddanghosiad personol yn sicr o beri i bawb a'i gwelent ei adnabod o hyny allan—■ yn goríF lled fawr, afrosgo, o wynebpryd garw caled, a'i ddillad mor rydd a didrefn am dano a phe buasent wedi cael eu taflu drosto â fí'orch wair. Yr oedd ei bregethau yn nodedig o blaen, heb nemawr o 61 rhagfyfyrio arnynt; ond yr oeddynt bob amser, fel y dywedai ef ei hun, "yn boeth oddiar y radell." " Unwaith yn fy mywyd," ebai efe, " y gwnaethym i bregeth; a'r tro hwnw daethym i'r pulpud mor falch ag y gallai y diawl a'm pregeth fy ngwneyd i. Ar step gyntaf y pulpud, mi a gollais y testyn; ar yr ail step, mi a gollais y rhagymadrodd; ar y drydedd step, dacw y pen cyntaf yn myned; ar y bed- waredd step, aeth yr ail ben; a chyn i mi gyraedd y pul- pud, yr oedd y bregeth, y cymhwysiad, a'r cwbl wedi myned. Wedi hyny nid oedd genyf ddim i'w wneyd ond penlinio a gweddio am drugaredd, ac addaw wrth yr Arglwydd, os gwnai ef faddeu i mi yr un tro hwnw, na cheisiwn i byth wneyd pregeth yn chwaneg tra y bydd- wn byw." Darfu i Samy gadw ei adduned i'r llythyren. Yr oedd gan Samy wraig ofalus iawn o'r enw Martha, neu Matty fel y byddai ef yn ei galw. Yr oedd Samy yn un hael iawn, mor hael fel nad oedd yn arfer ei reswm i