Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhip. 12. nnagfyv, IHÜiì. Cyf. III. WILLIAM SMITH. Pregethwr Cynorthwyol yn rhanbarth gorllewinol sir Gaerefrog oedd Williara Smith, a thad i John Smith, Gweinidog poblogaidd iawn yn ein Cyfundeb, yr hwn a fu farw yn mlodau ei ddyddiau. Yr oedd yr hen ŵr, y tad, yn Bregethwr poblogaidd iawn, a llawer o hynodion yn perthyn iddo. Billy Smith y byddai ei gydnabod yn ei alw. Yr oedd yn neillduol o selog, yn dduwiol iawn, yn dra gwybodus, ac yn gryf a chy wir iawn ei dyb. Yr oedd yn ei elfen yn y pulpud, ac yn y cyfarfod gweddi. Un bregeth oedd ganddo bob amser, er fod ganddo amrai destynau, a'r rhai hyny yn hawdd eu troi yn ol yr am- gylchiad; megys, " Rhaid eich geni chwi drachefn," &c. " Oddieithr eichtroi chwi, a'ch gwneuthur fel plant bych- ain," &c. Er hyny yr oedd y fath eneiniad oddiwrth Dduw yn dylyn ei bregethu, fel ag yr oedd yn hynod o dderbyniol a llwyddiannus. Pan aeth gyntaf ibulpud yn Barnsley, yr hwn oedd yn ben lle y Gylchdaith, daliwyd ef gan ofn dyn; ac i'r dyben i attal rhwystr oddiwrth ei ofn, efe a gauodd ei lygaid, ac nid agorodd hwynt nes oedd wedi ymhyfhau tua diwedd ei bregeth; a gwelai ei fod wedi troi ei gefn ar y gynulleidfa, er mawr ddigrifwch i'w gynulieidfa, ac wedi cyhoeddi ei fygythion i'r annuw- iol a'i gysuron i'r duwiol yn erbyn yr hen fur tucefn i'r pulpud. Er ei fod yn ddyn plaen, yr oedd llawer o wit naturiol ynddo. Fel yr hen Sammy Hick, yr oedd ganddo yntau "gydymaith trwy yr anialwch," o'r enw "Matty." Yr oedd hi yn dyoddef er's blynyddau gan anhwyldeb y gewynau, ac wedi myned o'r diwedd yn melancholy. Yr oedd wedi hollol gredu y byddai farw yn ddisymwth yn y nos; ac fel yr oedd ei hanhwyldeb yn cynyddu, yroedd