Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif. 4. ISbFÌU, 1851. Cyf. IV. D R. LAYARD, Diau mai nid annghymeradwy gan ein darllenwyr fyddai cael, yn y Winllan, ychydig o hanes yr ysgolhaig a'r henafiaethydd enwog uchod, yr hwn a ymwelodd yn ddiweddarâ Lloegr, wedi ei faith a'i lafurus ymchwiliadau i olion henafol Ninefe. Y mae Awstin Henry Layard yn disgyn o deulu pro- testanaidd parchus yn Ffrainc. Ganed ef yn Paris ar y 5ed o Fawrth, 1817. Ei dad, yr hwn oedd fab i Dr. Layard, gynt Deon Bristol, a fu mewn galwedigaeth uchel yn Ceylon o'r fl. 1820 hyd 1830, a bu yn ymdrechgar iawn i ledaenu yr ysgrythyrau yn yr ynys hòno. Yn am- ser ieuenctid ei fab, efe a breswyliai yn Florence, lle y cafodd ein henafiaethydd ieuanc fynedfa rwydd a chroes- awus i blith y cerfiadau a'r darluniau rhagoraf, ac i'r Uyfr- gelloedd llawnaf yn y lle. Daeth felly o'ifebyd yngyfar- wydd â iaith Tuscany, ac i feddu archwaeth cynyddol at lènoriaeth ac at y prif gelfyddydau; ac yn y modd yma daeth i wybodaeth drwyadl o'r ieithoedd diweddar, yn chwanegol at ei adnabyddiaeth gyflawn o hen ieithoedd Groeg a Ithufain. Yma hefyd y daeth ef yn fedrus gyda'i bwyntl (pencil), yr hyn a fu mor ddefnyddiol iddo ar ol hyny, yn enwedig pan na fyddai neb ond ef ei hunan i arlunio gwahanol wrthddrychau a ddatguddid iddo. Ar ddychweliad Mr. Layard o'r Eidal i Loegr, cymhellid ef i fyned yn gyfreithiwr; ond o herwydd ei awydd am wy- bodaeth, a'i dueddfryd at anturiaeth, a'i ymlyniad wrth arferion tramor, efe a ymadawodd yn fuan â'r gyfraith, gan ddylyn tueddgais naturiol ei f'eddwl. Ac felly efe a ymadawodd â Lloegr yn yr haf, 1839, a chyfaill iddo yn ei ganlyn, pryd yr ymwelodd â Rwsia, ac amrai o deyrn-