Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhif. 10. Hydref, 1951. Cyf. IV. PREGETHIAD YR EFENGYL. " Ewch i'r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur," Maiic xvi. 15. I. Yr Efengyl. Ystyr y gair yw newyddion da; ac yn wir dyma y newyddion gorafa swniasant yn nghlustiau pechaduriaid—Ceidwad wedi ei eni i golledigion Eden, inaddeuant drwy ei waed i bechaduriaid euog a thruenus, a bywyd i feirwon! " Canys felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd efe ei uniganedig Fab, fel na choller pwy bynag a gredo ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tra- gwyddol," Ioan iii. 16. Cred ynddo, enaid, a chadwedig a fyddi, Gellir crynhoi yr efengyl i ddwy ran; yn 1. Tystiolaeth am oruchel Berson Crist, ei anfoniad, a'i waith; ac yn 2. Yr addewid werthfawr a bendigaid o faddeuant pechodau a bywyd tragwyddol i'r neb a gredo ynddo fel y Crist, Mab y Duw byw. Gwel Ioan iii. 36; Act. x. 43, a xvi. 31. II. Pregethiad yr Efengyl. III. Helaethrwydd terfynau eiphregethiad. " I'r holl fyd—i bob creadur." Dyma orchymyn yr Arglwydd Iesu Grist i'w apostolion, ac i holl bregethwyr yr efengyl yn mhob oes, hyd ddiwedd y byd. 1. Nid ydym i wneuthur gwahaniaeth yn neb ar gyf- rif gwlad neu ach; " Canys nid oes gwahaniaeth rhwng Iuddew a Groegwr: oblegid yr un Arglwydd ar bawb, sydd oludog i bawb a'r sydd yn galw arno," Rhuf. x. 12. 2. Nid ydym i wneuthur gwahaniaeth mewii cyflwr na rhyw; na, dylem ei chyhoeddi yn gyfartal i dylawd a chyfoethog, i gaeth a rhydd, i wryw a benyw. Gwel Gal. iii. 28. 3. Nid ydym i wneuthur gwahaniaeth mewn cymer- iadau; yr ydym i gyhoeddi iachawdwriaeth i'r penaf o