Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif. 3. Mawrlli, 1952. Cyf. V. Y PARCH. JOHN JANEWAY. (Parhad tudal. 24.) Yr oedd Mr. Janeway yn ddyn mawr mewn gweddi. Ei arferiad cyson am flynyddau ydoedd gweddio o leiaf dair gwaith yn y dydd yn y dirgel, ac weithiau saith waith; a dwy waith yn y dydd yn yteulu neu yn y Coleg. Teimlai hyfrydwch annhraethol yn y gwaith; ac yr oedd yn mwynhau cymdeithas uchel iawn â Duw, gan brofi yn helaeth o fwyniannau y bywyd nefol ar y ddaear. Efe a wyddai yn dda beth oedd ymdrechu gyda Duw; ac ni chyfodai braidd un amser oddiar ei liniau heb dder- byn bendith gan ei Dad nefol. Yn chwanegol at yr amser a dreuliai mewn gweddi ddirgel, ymneillduai un awr bob dydd i ymgyfrinachu â Duw mewn myfyrdod difrifol a santaidd, yr hyn a fu yn fendithiol iawn i'w enaid. Ei amser at hyny fyddai yn gyffrcdin yn yr hwyr. Treuüai yr amser dedwydd hwnw mewn ymrodio wrtho ei hunan yn y maesydd; ond pan na fyddai y tywydd yn caniatâu iddo fod allan, efe a ymneillduai i ystafell ddirgel neu i'r Eglwys. Gwedi i Mr. Janeway fod am rai misoedd yn Gymrawd o Goleg y Brenin, cafodd le i fyned yn athraw i fab un Dr. Cox, yn nheulu yr hwn y bu yn trigo am amser, lle y rhoddai foddlonrwydd neillduol i bawb o'r teulu. Yr oedd ei iechyd wedi gwanhau eisioes i raddau mawr, fel y bu raid iddo cyn hir adael y llehwn, a dychwelyd adref er adferiad ei iechyd. Ond er ei fod y pryd hwnw yn wan ac afiach o ran ei gorff, yr oedd ei enaid yn fywiog ac effro yn ngwaith ei Arglwydd, ac yn ddedwydd yn y mwynhad o'i gymdeithas ef. Ac fel hyn yr ysgrifenai at un o'i gyfeillion yn y cyfamser: "A oes rhywbeth yn