Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhif. 6. MeEBCíÊii, 1832. Cyf. V. YR ARCHESGOB TEILIO. Y mae hanes y gŵr hwn yn gynwysedig yn yr un gof- restr a Dewi a Phadarn. Yr oedd yn fab i Hydwn Dwn ab Ceredig ab Cunedda. Ei fam oedd Tegwedd, merch Tegid Foel, o Benllyn. Teilio oedd enedig o wlad Pen- í'ro. Cafodd ei ddwyn i fyny dan orchwyliad Dyfrig yn un o'r Athrofäau a sefydlesid gan y gŵr duwiol a llafurus hwnw; a thrwy ei ddiwydrwydd efe a ddaetli yn ysgol- haig ardderchog. Yr oedd gwedi ymgyílwyno yn ieuanc i'r Arglwydd, ac yn ẁr enwog iawn mewn duwioldeb. Ar farwolaeth Treminius, Archesgob Caerlleon-ar-Wysg, Emrys Wledig, trwy gydsyniad yr holl bobl, a osododd üyfrig, Esgob Llandaf, yn Archesgob Caerlleon-ar-Wysg; ac ar ei symudiad i'r ddinashòno cafodd Teilio eigysegru yn Esgob Llandaf yn ei le ef. Ac wedi marwolaeth Cynog, cafodd Archesgobaeth Tyddewi. Oddiwrtho ef y cafodd Llandaf yr enw o Esgobaeth Teilio, a Phlwyf Teilio; canys yr eglwys gadeiriol oedd eglwys plwyf yr holl es- gobaeth y pryd hyny; ac yr oedd yr holl dalaeth, yn mha un yr oedd yr Esgob yn blaenori, yn cael ei galw yn blwyf. Yn y plwyfau hyn yr oedd amrywiol gorau neu gynulleidfaoedd, âchanddynt weinidogion sefydlog, yrhai a elwid rai troion yn Esgobion. Yr oedd yr flsgobion taleithiol y pryd hyny yn aml yn myned oddiamgylch i'w plwyfau neu esgobaethau, i hyfforddi yr anneallus, ac i ymweled â'ubrodyr, yn nghyda'u cynulleidfaoedd. Dy- wedir fod Teilio yn ddiwyd iawn yn y gorchwyl hwn; a gelwid ef yn un o'r "tri ymwelwyr ynys Brydain," oblegid ei fod yn myned oddiamgylch i bregethu yr ef- engyl, heb gymeryd na rhodd na gwobr. Y mae y Tri- oedd Cymreig yn crybwyll am Teilio i'el y canlyn: "Tri