Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhif. ll. Tacliwo<l«l, 18 52. Cyf. V. YR ARCHESGOB DEWI. Yrt oedd Dewi yn byw yn niwedd y pummed ac yn nechre y chweched canrif. Mab ydoedd i Sandde ab Cedig, ab Caredig, ab Cynedda; ei fam oedd Non, merch Gynyr o Gaer Cawch, yn sir Benfro; a dywedir ei fod yn ewythr i'r Brenin Arthur. Ganwyd a magwyd ef yn Mynyw, lle y mae Tyddewi yn bresenol. Yn moreu- ddydd ei fywyd ymddanghosodd ei fod yn ofni Duw, ac yn cilio oddiwrth ddrygioni. A phan benderfynodd ym- gyflwyno i waith y weinidogaeth, cafodd ei osod dan oíygiaeth Pawl Hen, yn athrofa Tygwyn-ar-Daf, yn sir Gaerfyrddin. Dewi, yn ymwybodol o'r angenrheidrwydd am ddysgetdiaeth i'r dyben i fod yn ddefnyddiol yn ei ddydd, a roddodd bob diwydrwydd i gyraedd yr ansodd- ion ag oeddynt o fewn gwybodaethau a dysg a fernid yn angenrheidiol er addasu dynion yr oes hòno i'r swydd offeiriadol. Wedi bod ddeng mlynedd yn myfyrio yn athrofa enwog Tygwyn-ar-Daf, Dewi, wedi cael ei anfon allan i bregethu yr efengyl, a bregethodd yn y prif-ffyrdd a'r caeau gyda llwyddiant neillduol, fel un wedi ei alw a'i gymhwyso gan Dduw i'r gwaith pwysfawr hwnw. Cafodd ei wneuthur yn offerynol i blanu ac adeiladu lla- wer o'r Eglwysi canlynol ei hunan, os nad y cyfan; sef pedair yn sir Benfro, dwy yn sir Gaerfyrddin, pedair yn sir Faesyfed, dwy yn sir Aberteifi, tair yn sir Frychein- iog, un yn sir Forganwg, a thair yn sir Fynwy. Y mae Llannon, yn sir Gaerfyrddin, wedi ei chysegru i Non, ei fam. Ei brif anedd oedd yn Mynyw, sir Benfro, er fod Dewi yn tramwy llawer trwy Gymru i bregethu yr ef- engyl i'w gydwladwyr. Yr oedd ganddo athrofa yn Myn-