Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhip. 3. Iflawrth, 1953. Cyf. VI. D Y N. Ganwyd ef yn freiniol ar fore hyfryd yn metropolis y ddaear, a throsglwyddwyd ef i'r ystafell wychaf yn y tŷ brenhinol yn mharadwys, gerllaw pren y bywyd. Gan nad oedd gwrthddrychau digon anrhydeddus i'w nursio yma, anfonodd Duw angylion o'r nef i lawr yn y royal express írain i siglo ei gryd, a thendio arno pan y byddai eisiau; a chanasant emynau soniarus i'w ddifyru a'igadw yn ddiddig. Gwisgwyd ef yn lifrai y nefoedd—y dillad anrhydeddusaf a feddai Brenin y brenhinoedd: a dywed- wyd iddo gael ei goroni yn ei gryd. Ac wedi iddo gael ei wneyd i fyny, a'i wisgo yn ei holl wychder brenhinol, daeth yr Amherawdwr nefol i'w weled. Ac yr oedd yn ymddangos ei fod yn dotio ato; canys dywedodd, mai " da iawn ydoedd." Ac wedi hyny cymerodd Duw afael yn ei law, ac a'i harweiniodd yma a thraw i weled ei amherodraeth. Y mae yn eglur fod creadigaeth dyn yn tra-rhagori ar bob peth arall. Crewyd dyn yn ddiweddaf, yr hyn sydd yn dangos yn amlwg ragoriaeth dyn ar yr holl greaduriaid ereill. Pe buasai wedi cael ei greu yn nechread y greadigaeth, buasai fel brenin heb ddeiliaid, heb weision, a phob peth cydfynedolâ'iurddas brenhinol; ond gan fod pob peth wedi cael eu gwneuthur yn flaenorol iddo ef ymddangos, y mae ei ogoniant ef yn tra-rhagori arnynt oll. Y paías wedi ei wneyd a'i ddodrefnuynbarod iddo—haul a lleuad i'w oleuo, &c. Pan yr oedd Duw yn myned i greu y gwahanol greaduriaid ereill, nid oedd arno eisiau cynlluniau; ond pan yr oedd yn myned i greu dyn, yr oedd eisiau galw cyfeisteddfod (committee) ar yr achos; a phenderfyniad y Drindod Santaidd oedd, " Gwnawn ddyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain." Ac er