Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhif. 7. Gorplieilllílf, 1853. Cyf. VI. J 0 H N C R A I G . John Craig a anwyd yn Scotland,yn y flwyddyn 1512. Yn fuan wedi hyny lladdwyd ei dad yn mrwydr Flodden Field. Yn y flwyddyn 1537, ymadawodd Craig â'i wlad enedigol, ac a aeth i Ffraingc ac Itali. Efe a aeth i Fyn- achdy yn Bologna, lle yr enillodd enwmawr. Yn llyfr- gell y Fynachlo? hon, cafodd hyd i waith Calvin, a dar- llenodd ef yn ddyfal ; a thrwy hyny argyhoeddwyd ef nad yr Eglwys Rufeinig oedd y wir Eglwys. Ond annghofiodd mor heryglus oedd ymddyddan yn rhydd ar ypwngc hwn ynltali, ac a hysbysodd eifeddwl i'w frodyr y Mynachod. Costiasai hyn yn ddrud iddo, oni buasai i dad oedranus yn y Fynachlog, yr hwn oedd gydwladwr iddo, ei gynorthwyo i ddiangc o'r lle. Wedi hyny caf- odd le i addysgu teulu boneddig mawr yn y gymydogaeth, ag oedd yn bleidiol i grefydd Brotestanaidd. Nid hir y bu yno cyn i'r gŵr boneddig ac yntau gael eu cyhoeddi yn hereticiaid, a'u dal gan swyddogion y Chwil-lys, a'u cy- meryd i Rufain. Bu yno naw mis rnewn daeargell dywell a dû. Ac wedi iddo nacau ymwrthod â'i broffes, dedfryd- wyd ef ac amryw ereill i gael eu llosgi. Cyhoeddwyd y ddedfryd ar yr20fedo Awst, 1559. Ond rhyfedd yw ffbrdd rhagluniaeth Duw! ar y prydnawn cyn y diwrnod yr oedd Craig i gael ei losgi, bu farw y Pab, Paul IV; o ganlyniad, yn ol henddefod, taflwyd holl ddrysau y carchar yn Rhufain yn agored. Ond tra y can- iateid i'r carcharorion am ddyled a throseddau gwladol ymadael, dygid yr hereticiaid yn eu holau i'w daear- gelloedd, wedi iddynt fyned unwaith o'rtu allan i furiau y carchar. Pa fodd bynag, torodd gwrthryfel allan y noson hono, yr hyn a roddodcl gyfle i Craig a'i gyd- garcharorion ddiangc ; a hwy a ffoisant i dŷ cyfagos i'r ddinas. Ni buont yno yn hir cyn i'r milwyr ddyfod o