Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhif. i. lonawr, 1850. Cyf. IX. HENAFIAETHAU DWYIIEINIOL. Mr. Gol.,—Yr wyf yn bwriadu, os bydd yn dderbyniol genych, anfon ysgrifen yn Ued aml er egluro rhyw arferiadau a dygwydd- iadau henafol, a grybwyllir yn yr ysgrythyrau. Byddant, fel y gall y darllenwyr ddeall, yn fwy o gyfieithiadau na dim arall. Yr wyf yn ymrwymo rhoddi cyfieithiad mor esmẅyth a rhwydd ag sydd ddichonadwy i mi; canys yr wyf yn deall riad yw y darllenwyr, yn y blynyddoedd hyn, yn hofiî geiriau " llathen o hyd ;" ac felly gallant wybod pa beth sydd genyf mewn golwg, heb dratferthu chwìlio beth yw arwyddocâd geiriau clogyrnog ac "annhraethad- wjedigaethol fawreddawg." Er mwyn y beirniaid hyny a alwai Lamartine, " y rìynion mwyaf annghyfiawn dan yr haul," byddai yn well i mi hysbysu mai fy awdurdodau fyddant Dr. Kitto, Dr. Edward Rohinson; "Gweddillion Ninefeh, gan A. H. Layard; " Popular Biblical Educator;" Watson's " Iheological and Bibli- cal IHctionary;" " Incidents of Travels in Eaypt, Arabia, and ihe Holy Land" by J. I.. Stephens; L^niartine's " Visit to the Ho'y Land;" " Monthhj Series of the Religious Tract Society;" yn nghyda lluaws o awdwyr ereill, y rhai a grybwyllir yma a thraw yn yr ysgrifen. Un nodiad arall, ac yna âf fy hun o'r golwg: y foment y clywaf aohwyniad yn erbyn yr ysgrifen, ymattaliaf, gan nad wyf yn chwenych blino neb. Wyf, Mr. Gol, eich serchog, Egwisyn. Y GROES-FFORDD. (Ezec. xxi. 20—22.) Ymddengys bod yr Ammoniaid yn gwrthwynebu aw- durdod y Caldeaid, yr un amser a'r Iuddewon. A phan ddechreuodd brenin Babilon ei daith gyda'r amcan i'w darostwng hwynt raewn ufudd-dod iddo, y mae yn ym- ddangos ei fod yn anmhenderfynol ei feddwl, pa un ai yn erbyn Jerusalem, ynte yn erbyn " Rabbath meibion Ammon'' yr âi. Modd bynag, pan y daeth i'r "groes- ffordd," i'r llanerch hono lle yr oedd yn angenrheidiol iddo benderfynu i ba gyfeiriad i arwain ei fyddiuoedd, ymgyrchodd at ddewiniaeth i benderfynu y materiddo ef, yr hyn ydoedd yn arferiad ag yr oedd yr henaflaid yn hoff ohoni, a chyrchu ati mewn amgylchiadau amheuus, fel y gallent wared eu hunain o'r boen a'r cyfrifoldeb o