Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif. 10. Hydref, 18*©. Cyf. ix. "Y GWAED GWIRION;" NEU, FEDDYLIAU ENAID COLLEDIG AM WAED Y GROES. " Enaid colledig!" O eiriau sobr! Y mae miloedd wedi eu colli! ac onid oes perygl, anwyl ddarllenydd, i tithau golli dy enaid! Y mae perygl; cymer ofal. Dy weddi fyddo, " Na âd fy enaid yn ddiamgeledd." Y mae modd amgeleddu dy enaid trwy waed Crist; ond os sethri dan draed " waed y cyfamod," ti gofi gyda Judas am y "gioaedgwirion" yn "hyll ogo'r colledigion," ac ni fydd modd dy waredu o'r lle poenus hwnw hyth ! Soniais am Judas. Y mae ef yn ei " le ei hun," yn y carchar caeth, am iddo " fradychu gwaed gwirion." Gwertbodd ei Geid- wad " am ddeg ar ugain o arian,'' ac mewn canlyniad wele ei enaid yn llawn dychryn wrth adgofio yr hyn a wnaeth, a'i gydwybod yn ei orfodi i gyfaddef ddarfod iddo bechu, trwy "fradychu gwaed gwirion." Yr oedd yr euog- rwydd a breswyliai yn ei fynwes fel mil myrdd o saethau annyoddefol! Dichon fod llawer o bethau ar y pryd yn ei frathu, nes oedd ei ingau yn annysgrifiol, ac am ymwtbio i'w feddwl; ond nid oedd yno le ond i un peth—"y gwaed gwirion." Nis gallasai gael gwa- red o hwn, mewn modd yn y byd. Prin y gallasai feddwl am unrhyw bechod arall a gyflawnasai yn ei oes, gan mor fawr ac erchyll yr ymddangosai hwn. Hwn oedd pechod ei bechodau. Y mae y drychfeddwl a gyflea yr adfrawddeg, " gwaedgwirion," y munud yma yn poeni ei " enaid colledig,'' ac a'i poena byth. Darfu i Judas, cyn myned "i'w le ei hun," adael tystiolaeth ar ei ol i ddiniweidrwydd Iesu. Dywedodd gyda'i anadl olaf bron, " gwaed gwirion!" Diniweidrwydd y' gwaed a fradych- odd efe, sydd yn gwneyd utfern y peth yw hi iddo ef. Pe buasai gymaint ag un spot arno, ni fuasai ei ingau mor