Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ANGENRHEIDRWYDD A'R BUDDIOLDEB O WYBODAETH YSGRYTHYROL. WttTH wytodaeth ysgrythyrol yr ydym i ddeall, bod yn hyddysg yn hanesiaeth, proffwydoliaeth, a duwinyddiaeth yr Hen a'r Newydd Destamentau ; yr hon wybodaeth sydd yu rhagori ar bob gwybodaeth arall, er mor angen rheidiol a defnyddiol bynag y dichon iddynt fod. Tra uchel y dyrchefir ac y mawrygir y gwahanol wybodaethau sydd â chysylltiad ganddynt â'n hachosion tymorol yn y byd ; a gwir deilwng ydynt o'u noddi genym fel cenedl, ar ba rai, i raddau mwy neu lai, y mae ein cysuron tymor- ol ni yn ymddibynu ; ond er mor deilwng y gall y gwy- bodaethau hyn fod ; eto, ant i'r Uwch, neu i'r dim, mewn graddoliaeth, wrtheu cyferbynu â gwybodaeth ysgrytbyr- ol; o herwydd y mae gwjbodaeth ysgrythyrol, nid yn unig yn ein cyfarwyddo i ddwyn ein gorchwylion tymor ol yn mlaen, ond hefyd hi a'n cyfarwydda i ddwyn ein hachosion cristionogol a chrefyddol yn mlaen. Amlyga y ffynonell darddiol, o ba un y mae ein holl gysuron ys- brydol yn deilliaw, a'r moddion mwyaf llwyddianus i dd'od i i'eddiant ohonynt, a'r modd sicraf a mwyaf diogel i'w cadw yn ein meddiant. Yr angenrheidrwydd o wybodaeth ysgrythyrol a welwn yn eglur, ond ystyried y truenusrwydd a'r tywyllwch caddugawl oedd wedi, ac sydd yn mantellu neu gymylu meddwl y miloedd eilun- addolwyr, ablygant i addoli pren a maen, yr haul, lleuad, ser, ysbrydíon, dytiion, anifeiliaid, afonydd, planigion, yr elfenau, teirw, giachod, cenin, wynwyn, &c, yn nghyda gwaith eu dwylaw eu hunain. Dywedir fod gan y Groeg- iaid oddeutu 30,000 o amrywiaeth eiiunod yn cael eu haddoliganddynt; ond yn nes atom na'r Groegiaid,y mae y rhai a hyf hnerant mai " mammaeth duwioldeb ywan- wybodaeth,'' (sef y Pabyddion,) yn addoli Mair, y seint-