Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif. 9. Am Mecli, 18»S. Cyf.XI. YR OEN YN NGHANOL YR ORSEDDFAINGC. Parhâd tudal. 148. Ond noiiwn eto yn 2. Fod y Cyfryngwr mawr yn nghanol yr Eglwys. Y mae •• yn nghanol y pedwar anifail ac yn nghanol yr hen- uriaid,'' a gwelsom eisioes fod y pethau hyn yn arwyddo y wir Eglwys o ran ei swyddogion a'i haelodau. Nid ein testyn yn unig sydil yn dysgu hyn i ni; na, iaith gyson y Beibl yw fod Duw yn Nghrist yn nghanol ei Eglwys isel. Y Salmydd a ddywed amdani, " Duw sydd yn ei chanol hi." Zephaniah hefyd a ddywedai wrthi, " Yr Arglwydd dy Dduw yn dy ganol di sydd gadarn ;" a llafar lefai Zechariah y byddai Duw " yn ogoniant yn ei chanol hi.'' A dywed Ioan yn nechreu y llyfr hwn iddo wel'd yr Iesu yn ei hollrwysgfawredda'iogonianf'ynrhodio yn nghanol y saith ganwyllbren aur'" Fel tad yn nghanol ei deulu, fel haul natur yn nghanol y bydoedd, fel Duw gynt yn nghanol cynulleidfa meibion Israel, felly y mae Crist o hyd yn nghanol ei Eglwys! Y mae yn ei chanol i'w llytvodraethu. " Efe," medd yr Apostol, " Efe yw pen corff yr Eglwys." Nid oes i'r wir Eglwys un pen arall cbwaith. Y mae gan Eglwys Loegr y inwe'n wir ei mawrhydi y Frenines yn ben, ac y mae gan Eglwys Rhufain ei santeiddrwydd y Fab yn ben! Y fath benau! ond ni fedd y wir Eglwysun pen ond Crist: y mae aelodau yr Eglwysyn ddeiìiaid i Gristmewn modd neillduol. Y maent yn ddeiliaid nid yn unig o'i lywodr- aeth gyffredinol ef feleigreaduriaid, ond hefyd o'ilywodr aeth ysbrydol ef fel ei saint. Teyrnas fach neillduol yn nghanol teyrnas fawr gyffiedinol yw yr Eglwys! Efe yw rhoddydd ei deddfau, efe yw sefydlydd ei hordinhadau, ei air ef yw terfynydd ei dadleuon, a'i fywyd ef yw model ei bywydau!—y mae ynei chanol i'w llywodraethu. Ond eto, Y mae yn ei chanol i'w huno. Y maen clo yn nghanol