Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhif. 12. Am îSlaagfyr, 18S9. Cyf.XI. YR APOSTOL PAUL. I. Gof. Pa fath ddyn oedd Paul o ran ei berson ? At. Saul oedd ei enw cyntefig, er arwyddo ei fod yn fychan o gorflblaeth. 2 Cor. x. 10: " Oblegid y llythyrau yn wir (meddant) sydd drymion a chryfion, eithr presen- oldeb y corff sydd wan, a'r ymadrodd yn ddirmygus." II. Gof. Yn mhale ei ganwyd ef ? At. Yn Tarsus, dinas yn Cilicia. Act. xxi. 39: "A Phaul addywedodd, Gŵr ydwyf fi yn wir o Iuddew, un o Tarsus, dinesydd o ddinas nid anenwog, o Cilicia." III. Gof. Pa un ai luddew ai Cenedl-ddyn oedd PauH At. Yr oedd o rieni Iuddewig, y rhai a fedrlent hawl dinasyddion Rhufain, xxii. rhan25: " Ai rhydd i chwi fílangellu gŵr o Rufeiniad, ac heb ei gondemnio hefydP'' IV. Gof. A oedd Paul o ryw grefydd cyn ei droedig. aeth ? At. Oedd, yn Pharisead er yn ieuangc, ac wedi enill iddo ei bun glod mawr fel y cyfryw. Gal. i. 14 : " Ac i mi gynyddu yn y grefydd Iuddewigyn fwy na llawer o'm cyfoedion yn fy nghenedl fy hun, gan fod yn fwy awydd- us i draddodiadau fy nhadau." V. Gof. A oedd Paul yn ddyn dysgedig f At. Oedd, wedi ei ddwyn i í'yny wrth draed Gamaliel, ac yn adnabyddus &'r holl ieithoedd a lefarid y pryd hwnw. Act. xxii. 3 : " Ac wedi fy meithrin yn y ddinas hon wrth draed Gamaliel, ac wedi fy athrawiaethu yn ol manylaf gyfraith y tadau, yn dwyn sel i L)duw, fel yr ydych chwithau oll heddyw." VI. Gof. A fedrwch chwi nodi yn mha le yn y Tes- tament y eeir yr enw Saul ddiweddaf, a'r enw Paul gyntaf? At. Medraf. Act. xiii. 9: "YnaSaul (yr hwn hefyd a