Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAS, Rhif. 8 Am Awst, 1859. Cyf. XII. YR ADFYWTAD CREFYDDOL. At Olygydd y Winllan. Anwyl Frawd,—Yr wyf yn teimlo yn ddiolchgar am na raid galw yr Adfywiad presenol yn " Ddiwygiad yn Sir Aberteifi" yn unig mwy, gan ei fod, drwy daioni yr Arglwydd, yn ymestyn i lawer o siroedd ereill, a bod y tân santaidd a dorodd allan yn eich hen wlad, yn awr yn enyn yn gyflym mewn llawer o ardaloedd drwy Ogledd a Deau. Tybiwyf hefyd nad oes achos yn awr i roddi hanes manwl am ddechreuad a chynydd y gwaith ben- digedig hwn yn y sir hon jn ystod y misoedd diweddaf, gan na fyddai hyny ond adrodd ffeithiau sydd wedi eu cyhoeddi yn barod yn y gwahanol newyddiaduron, â pha rai, drwy y cyfryngau hyny ac ereill, y mae bron yr oll yn ddiau o'ch darllenwyr yn ddigon adnabyddus. Gan hyny ni wneir yn awr ond ceisio pwyntio allan rai o brif nodweddau neu hynodion y gwaith ei hun. Ac yr ydys yn anturio sylwi i ddechreu, Fod ygwaith hwn o Dduw. — Anmhosibl yw edrych ar y pethau sydd wedi eu gwneyd yma yn eich hen wlad a'ch hen gylchdaith, Mr. Golygýdd, heb addef, gyda chalon lawn o ddiolch — Bys Duw yio hyii- Pan glywodd Ioan gynt yn y carchar am weithredoedd Crist, ac yr anfonodd ddau o'i ddysgyblion ato, i gael gwybod ganddo ai efe oedd y Messia dysgwyliedig, yr ateb a roddodd ein bendigaid Geidwad iddo oedd,—" Ewch a mynegwch i Ioan y pethau a glywwch ac a welwch. Y mae y deillion yn gweled eilwaith, a'r cloffion yn rhodio, a'r cleifion gwahanol wedi eu glanhau, a'r byddariaid yn clywed ; y mae y meirw yn cyfodi, a'r tlodion yn cael pregethu yr efengyl iddynt. (Mat. xi. 1 — 6.) Yr oedd y gwaith yn dangos yn ddigon amlwg pwy oedd y Gweithiwr. Felly y mae gyda ninau yma. Miloedd ag oeddentchwe mis yn ol yn y byd, sydd yn awryn yr eglwys. Lluoedd ag oedd-