Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhif. 9. Am Medi. Cyf. XIII. HANESION HYNOD AM YR ADFYWIAD. Yr o?dd gwraig weddw yn byw yn Georgia, America, ac iddi ddau fab. Yr oedd hi yn hynod o grefyddol; ond yr oeddent hwy yn anffyddwyr proffesedig. Gadawsant eu cartref er's amser, ac yr oeddent yn bresenol mewn talaeth arall mewn gwasanaeth urddasol. Ar ol bod yn absenol amrai flynyddau, anfonasant at 'eu mam eu bod yn dyfod i ymweled â hi yn fuan. Yr oedd adfywiad crefydd- ol grymus yn cymeryd lle yn yr ardaloedd cymydogaethol i'w hen gartref y pryd hwnw. Gellir credu fod y fam yn teimlo yn llawen wrth feddwl cael gweled ei phlant unwaith yn rhagor, a phenderfynodd wneyd ei goreu i'w dychwelyd at Grist, fel y byddent yn myned yn ol yn ddyniou newydd. Daethant adref. Y pryd hwnw yr oedd yn y lle ddysgwyliad mawr am ryw bregethwr enwog (revivalist) i ddyfod yno i gynal cyfarfodydd adfywiadol; ac yn sicr nid oedd neb yn dysgwyl yn fwy awyddus na'r wraig weddw hon. Yr oedd, nid yn unig yn dysgwyl am- dano, ond yn gweddio yn daer ar Dduw am iddo fod yn foddion achubiaeth ei meibion. Ond nid oedd son pa bryd yr oedd ef yn dyfod y ffordd hono. Yn y man, daeth yn amser i'r bechgyn feddwl gwynebu yn ol, a nodasant y nos Wener ddylynol fel yr adeg i gychwyn. Yr oedd cerbyd yn dyfod heibio eu cartref y noson hono, a chydahwnw y bwr- iadent fyned. Gwawriodd dydd Gwener. Boreu y dydd hwn daeth cenad yn hysbysu fod y pregethwr ar ei daith i'r lle, ac y byddai yn pregethu y noson hono yn y capel lle yr arferai y weddw addoli. Daeth yn ol ei addewid. Ymgasglodd torf fawr yn nghyd i wrando arno, er mai yn ddisymwth y daeth yno. Cymhellodd y fam ei meibion i ddyfod i'r lle i glywed y gŵr dyeithr, a daethant. Yn y man, clywwyd swn yr udgorn yn hysbysu fod y cerbyd yn ymyl: a chan eu bod i fÿned gydag ef, aethant allan o'r