Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WIN LLAN. Ttom?. 12. Am Rhagfyb 1860. Cyj?. XIII. A ALL GWIR GREDADYN SYRTHIO YN HOLLOL ODDIWRTH RAS? Y GAll gwir gredadyn, neu, mewn geiriau ereill, un ag sydd santaidd neu gyfiawn yn marn Duw ei hun, syrthio yn hollol oddiwrth ras, a ymddengjs, yn 1. Oddiwrth air Duw trwy Ezeciel: " Pan ddychwelo y cyfiawn oddiwrth ei gyfiawnder, a gwneuthur anwiredd, yn ei gamwedd yr hwn a wnaeth, ae yn ei bechod a bechodd, ynddynt y bydd efe marw," pen. xviii. 24. A ydych chwi yn gwrthwynebu hyn, trwy ddywedyd, " I'r eglwys a'r genedl Iuddewig y mae y bennod hon yn perthynu yn unig ac yn gwbl ? " Yr wyf yn ateb, Prof- wch hyn. Hyd oni wnewch hyny, bydd i mi gredu fod llawer man ynddi yn perthynu i holl ddynolryw. Os dywedwch, yn 2. " ìíad oedd y cyfiawnder y sonír amdano yn y bennod hon ond cyfiawnder allanol, heb un egwyddor o ras neu santeiddrwydd oddîfewn;" gofynaf finau, Pa fodd y gall hyny fod yn gyson âg adn. 31,— " Bwriwch oddiwrthych eich holl gamweddau y camwedd- asoch ynddynt; a gwnewch iwch' galon newydd ac ysbryd newydd ? " Ai " cyfiawnder allanol yn unig, heb un eg- wyddor o ras neu santeiddrwydd oddifewn," ydyw hyn ? A fydd i chwi chwanegu, " Ond, ag addef i'r neb y sonir amdano yma fod yn wir gyfiawn, nid yw yr hyn a ddy- wedir ond tybiadol?" Yr wyf yn hollol wadu hyny. Darllenwch y bennod drosodd drachefn, a chwi a gan- fyddwch mai sylweddol, ac nid tybiadol, yw yr hyn a ddy- wedir yma. Mai marwolaeth dragwyddol yw y farwolaeth y sonir amdani yma, sydd eglur oddiwrth y chweched adnod ar ugain: " Pan ddychwelo y cyfiawn oddiwrth ei gyfiawn- der, a gwnentbiu' anwiredd, a marw ynddynt,"—dymafar-