Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. AM MEDI, 1862, BYR GOFIANT AM MARY PARRY, DOLGELLAtT. Pan oedd natur yn ymddadebru ar ol hirfaith gwsg, meill- ion bron ar ymddangos, peraidd a soniarus lais yr adar yn y goedwig draw, cyffro cyffredin yn mysg plant dynion i ddarpar erbyn y dyfodol yn y byd hwn, pryd hyny dyma Mary yn gadael byd y gofid, ac yn myned i gyfaneddu mewn ardal ag y mae yn haf oesol yno, blodau ni wyw- ant, yr haul ni fachluda, ac ni bydd nos yno, ei phreswyl- wyr ni heneiddiant, ac ni ddywed yr un ohonynt, " Claf ydwyf." Yr oedd Mary yn ferch i Howell a Margaret Parry, Ganwyd hi y 23ain o Hydref, 1849. Cafodd fagwraeth a dygiad crefyddol i fyny. Y mae y tad a'rfam yn aelodau ffyddlawn gyda'r Wesleyaid yma. Pwy all ddyweyd braint y plant sydd yn cael eu dysgu i barchu pethau crefyddol ? Ond nid oedd dim neillduol i'w ganfod ynddi hi hyd nes y torodd tân yr adfywiad allan yn ein plith. Ypryd hwnw fe'i deffröwyd i ystyried ei chyflwr, ac i ym- ofyn am grefydd; ac o'r amser hwnw, hyd y gallodd, rhoddes brawf ei bod yn gywir yn y gwaith. Yr oedd yn neillduol ofalus am foddion crefyddol tra y cafodd ychydig o iechyd ; ac ar ol dychwelyd o'r moddion, bu lawer nos- waith, wedi myned i'r gwely, yn canu, gweddio, a gorfol- eddu am oriau. Yr oedd o gyfansoddiad gwanaidd, ac wedi bod yn nychu am amser maith. Bu yn gorwedd am chwech wythnos, ond yr oedd yn cydnabod mai ei Thad nefol oedd yn ei chystuddio. Tystiai yn y modd egluraf fod Duw, er mwyn ei anwyl Fab, wedi maddeu ei holl bechodau. 0 ryfedd allu gras! Fel y mae moliant o enau plant bychain yn cael ei berffeithio! Dywedai fod of'n marw wedi ei symud ymaith, a " bod ganddi chwant i fod gyda Christ." Y noswaith olaf iddi ar y ddaear, yr oedd yn hynod o wanaidd. Yroedd ei thad ac ereill wrth k 2