Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

101 EILUN-DDTTW HINDWAIDD. «N bendant mae dynion y ddaear yma wedi ymostwng i addoli pethau rhyfedd. Oreda y darllenydd hyny pan ddysga fod yr hwdwch afluniaidd uchod yn wrthddrych addoliad miloedd. 3 Enw y duw prydferth hwn yw " Duw Ehwystrau." Dyma ei hanes. Mae yn fab i Siva a Paruathi. Pan yn faban gwnaeth ei fam ef yn geidwad y drws iddi. Yr oedd gan dduw arall o'r enw Ewnara gryn lid ato; a ohan ei gael ryw ddiwrnod ar ei ben ei hun, rhoddes ffordd i'w lid, a thorodd ei ben ef ymaith. Teimlodd Siva yn annghyffredin pan glywodd am hyn, a gwnaeth adduned y gosodai ben y creadur cyntaf a gyfarfyddai ar ysgwyddau ei fab yn lle yr un a gollasai. Y peth cyntaf a'i cyfarfyddodd oedd cawr- fil neu élephant; ac yn ol ei adduned torodd ben yr anifail ymaith, * gosododd ef ar ei fab gan ei adfer i fywyd yn ol. Pan welodd ei «un ef gyntaf ar ol hyn hi a ddychrynodd yn annghyffredin. A pha ryfedd P Ond daeth yn y man i ymgynefino âg ef. Mefch- F MEHETIN, 1871.