Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif. 2. loiiiiwr, ISiíî. Cyf. X. JOHN HUSS . Y dydd y merthyrwyd y dyn santaidd hwn, planwyd coeden ar y fan ei merthyrwyd ef, yr hon sydd erbyn hyn yn un fawr a phrydferth, a'i changau yn ymledu dros ddarn helaeth o dir, ac yn debyg o aros yn gofgolofn i'w ferthyrdod flynyddau lawer i ddyfod. Rhoddwyd aymiau anferth cyn hyn i gerfwyr medrus a galluog, ercodi colofnau coffaol i enwau personau llai teilwng na John Huss; ond yn yr amgylchiad presenol, wele'r " pen saer celfydd'' ei hun yn peri i natur godi cof-golofn i enw a chrefydd y dyn hwn. Un o'r pethau cyntaf sydd yn tynu sylw ymwelwyr â thref Constance, yw y goeden hynod hon ; ac eistedda ugeiniau o dro i dro o dan ei changau cysgodfawr, i ymddyddanam ferthyrdod gŵr Duw; ac wrth ymddyddan, yfa amryw yn helaeth o ysbryd y merthyr a roddodd ei fywyd i lawr dros ei Ar- glwydd. Yr oedd John Huss yn un o'r ser dysgleiriaf a ymbelydrodd yn ífurfafen yr eglwys erioed. Ganwyd ef yn Hussinez, pentref bychan yn Bohemia, yn gyfagos i Prague, yn y fiwyddyn 1373. Yr oedd ei rieni yn isel eu hamgylchiadau, ond yr oedd ei dad yn ddyn o feddwl cryf a chraffus. Gwelodd fod rhyw beth yn John yn addawol, ac felly rhoddodd iddo ddysgeidiaeth hyd eithaf ei allu. Dangosodd John yn dra buan ei fod yn meddu ar feddwl cyflym a by wiog. Wedi bod beth amser mewn ysgol yn Praciiatiz, aeth yn was at un o benaethiaid Coleg Fragub, yn yr hwn le y dangosodd fawr awydd am ddysgeidiaeth, yr hyn a barodd i'r gwŷr dysgedig gy- merjd sylw ohono. Yr oedd ei feistr yn dirion iawn wrtho ; rhoddodd iddo fenthyg amrai lyfrau, ac a'i cynorthwyodd i gario yn mlaen ei efrydiaeth, a chyn hir wele John, yn Ile bod yn was, yn efrydydd yn y Coleg! a plian yn ugain oed âg M. A. wrth ei enw ; ac yn eb- rwydd wedi'n cawn ef yn Athraw Duwinyddiaeth, yn weinidog eglwys Bethlehem, ac yn cael ei ddewis i fod