Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhif. 11. Trtí'hwíMlíl, ÌS&Y. Cyf. X. BOD RHWYMEDIOAETH DYNION I UFUDDHAU I'R DDEDDF WEDI El GADARNHAU TRWY IAWN ÖRI8T. PENNOD III. Yn y ddwy bennod flaenorol, cymerwyd golwg ar rwymedigaeth dyn i ufuddhau i'r ddeddf; ac ymdrech- wyd profl nad oes dim wedi ei ryddhau oddiwrthi. Meddyliwyd fod yn angenrheidiol i mi symud yn mlaen yn y modd yna ; a dyna y rheswm i mi gymeryd sylw ar y ddau beth a nodwyd. Eir yn mlaen, yn awr, i nodi yn III. BoD Y DDRDDF WRDI DERBYN GRYM NEWYDD I OFYN HOLL UFUDD-DOD DYN. Mewn trefn i fod mor eglur ac mor bointed ag sydd yn ddichonadwy, nodiryn 1. Nad yw dyn i golli eì nodweddau hanfodol, fel bôd moesol, trwy sefydliad teyrnas ysbrydol Critt. Ŵid yw ei berthyna8 â Duw i gael ei dileu mewn un modd ; ond y mae i aros mewn grym bythol, trwy bob peth, ac er pob peth. Y mae, trwy Gristionogaeth, i'w ryddhau oddiwrth y rhwymau a'r colliadau yr aeth iddynt trwy bechod,fel y byddo yn y gwirionedd. Y mae i fod yn yr hen grefydd, yr hon sydd cyn hyned a'r greadigaeth ; sef, yn y ddelw, yr hon sydd i'w hail greu o'r newydd. Ephes. ìy. 24; Colos. iii. 10. Hon oedd crefydd dyn yn ei og- oniant gwreiddiol, a hon yw ei grefydd trwy yr adferiad mawr, ond y bydd gogoniant y tŷ diweddaf yn fwy na'r cyntaf, am y bydd yr unrhyw ddelw wedi ei phrydferthu â gras, a'i meddianydd dedwydd wedi ei meddianu trwy y gwabd.