Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

T WINLLAN. Bhif. 5.] MAI, 1887. [Cyp. XL. From Photo. Elliott anJ Fry, 55, Baker Street, W. HENRY WARD BEECHER. |YDD yn dda gan eìn darllenwyr, yn ddiau, gael y darlun rhagoroi aichod a'r braslun canlynol o'r pregethwr a'r darlithiwr byd-enwog Henry Ward Beecher, yr hwn, ar ol ychydig ddyddiau o gystudd, a fu farw yn mis Mawrth diweddaf, yn 73 mlwydd oed, yn ei breswylfod ei hunan, Peekshill, Brooklyn, New York. 2Mid oedd Mr Beecher ond newydd ddychwelyd gartref i America ar ol talu ymweliad a Lloegr; ac yr oedd mewn ìechyd rhagorol ar y pryd, fel na thybiodd neb am foment fod ei ymadawiad o'r byd hwn mor agos. Ond felly y gwelodd yr Arglwydd yn dda; a phan gyrhaeddodd y newydd y wlad hon, parodd alar mewn cylchoedd lawer drwy y deyrnas. Yn wir, üid gormod yw dyweyd fod ei farwolaetn wedi achosi galar