Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhip. 6.] MEHEFIN, 1887. [Cyp. XL. Y tfẀIR ANRHYDEDDUS W. H. SMITH, A.S. iR ydyin yn cyflwyno yr yebydig nodiadau canlynol am Arweinydd presenol Tŷ y Cyffredin, am ei fod, mewn gwirionedd, yn un o ddynion enwocaf ei oes ar gyfrif y ffaith ei fod, yn __ rhinwedd a grym y rhagoriaethau a'r galluoedd hyny sydd yn myned mor bell tuag at wneyd i fyny ddyn mawr, wedi dringo i'r safle uchel ac anrhydeddus y mae ynddi yn awr fel un o weinidogion Llywodraeth ei Mawrhydi ŷn y cymeriad o self-made mau. Pan ddyrchafwyd Mr Smith yn Ngweiuyddiaeth y diweddar Arglwydd Beaconsfield, i fod yn First Lord of the Admiralty, parwyd syndod aruthrol, mewn rhai cylchoedd, a mawr amheuid ei gymhwysdei*au i'r fath swydd uchel a chyfrifol ond cyn pen ychydig o wythnosau yr oedd llais lled gyffred- inol yn canmol y penodiad fel un o'r rhai goreu allesid ei wnejd. A phaham P Am fod yn Mr Suiith y cymhwysderau