Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

I WINLLAN Rhif. 9.] MHDf. L3S5. [Cyf. XXXVIII. H. M. STANLEY. AE yn debyg nad oes ond ychydig o ddar- llenwyr y Winllan\ heb wybod o leiaf am enw Mr H. M. Stanley, y gwron ieuanc dewr sydd wedi enill iddo ei hun gymaint o anrhydedd a bri mewn cysylltiad a'i deithiau anturiaethus ar draws cyfandir Affrica, a'i ddarganfyddiadau hynod yn ystod y teithiau hyny. Mae yn debyg y gellir bellach edrych ar Mr Stanley fel Oymro, yn enedigol o Ddinbych, yn 1840. Bu gynt saith o ddinasoedd enwog yn ymiyson am yr anrhydedd o fod yn lle genedigaeth Homer; a bu Cymru a Lloegr yn ymryson am yr anrhydedd o alw Stanley yn fab. Ond y mae ei genedl- igrwydd Gymreig yn awr y tu hwnt i amheuaeth; a gallem fel Oymry yn ddiau ymfErostio ynddo. Nid oes yn yr oes