Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. Rhijt. 4.} EBRILL, 1886. [Cvf XXXIX. MR. HENRY BROADHURST, A.S. (iS-YSGRIFENYDD Y SWYDDFA GARTREFOL.) N mysg j lluaws " Enwogion " ag jr ydym wedi cael yr hyf rydwch o gyflwyno eu darluniau ac ychydig o'u hanes i ddarllenwyry Winllan, y mae ambell un i'w gael o ranlcs j dosbarth gweithiol i lenwi cylch uchel a swyddau pwysig yn mysg pendefigion y bobl. Un felly mewn modd arbenig ydyw y boneddwr y mae genym yr hyfrydwch o'i gyflwyno i'n darllenwyr y tro hwn. Prin y gallesid cael engraifft mwy tarawiadol o oruchaf- iaeth gwir deilyngdod a dyfalbarhad mewn ŷmgais i ddyrehafu y dosbarth gweithiol a sicrbau iddynt eu hiawn- derau nag a geir yn mywyd a llwyddiant Mr Henry Broadhurst, yr hwn sydd heddyw yn Uenwi un o'r swyddau pwysicaf a mwyaf anrhydeddus yn Llywadraeth Prydain Pawr, a hyny heb fod ganddo na chyfoeth, henafiaeth ach- yddol, urdda8 teulu, na dylanwad pendefigol, i'w gynorth-wyo yn y dyrchafiad y mae efe heddyw yn ei fwynhau; dim ond ei nerth persono^ ei lâfur, ei gymeriad personól, a'i awydd angerddol i lesau y dosbarth o ba ud y mae efe wedi hanu, ac o'r hwn y mae efe yn aelod mor anrhydeddus.