Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN Bhif. 12.] RHAGFYR, 1886. [Cyf. XXXIX. gweinidog HENRY RICHARD, YSW., A.S. MAE yn hyfrydwch genym gyflwyno i'n dar- llenwyr ddarlun o'r Aelod Seneddol Rhydd- frydol dros Merthyr Tydfil. Bi'odor ydyw Mr Henry Richard o Dregaron. Ac yn fab i'r diweddar Barch Ebenezer Richard, gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Dygwyd yntau i fyny yn aelod o'r " Hen Gorff," a phan nad oedd eto ond deunaw oed, aeth i Goleg Highbury i efrydu ar gyfer y weinidogaeth, gan y bwriadai gysegru ei hunan i'r alwedig- aeth sanctaidd hono. Dr. Halley oedd Prifathraw y Coleg y pryd; a chafodd Henry Richard ieuanc ynddo ddysgawdwr a chyfaill anmhrisiadwy. Ar derfyn tymor ei efrydiaeth, ymgymerodd Mr Richard â gofal bugeiliol eglwys Marlborough, Jjlundain, a bu ei weini- dogaeth feddylgar a thaer yn foddion i ffui-fìo eglwys luosog a gweithgar.