Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

21 DYLANWAD NIWEIDIOL CYFEILLACH DDEWG. ** Fj' mab, os pechaduiiaid a'tb. ddenant, na chytuna â h"wy." Diar. i. 10. fAE y geiriau hyn yn awgrymu dau wirionedd teilwng iawn o sylw yr ieuanc; ac ymdrechir yn hyn o erthygl gymhell y cyfryw i sylw darllenwyr y Winllan. I. AWGRYMITt YN Y GEIRIAU UCHOD POD GAN GYFEILL- ACH BECHADURUS DDYLANWAD HUDOLIAETHUS i'E meddwl iettanc. Ni raid i ni ond agor ein Uygaid mewn trefn i weled fod yr awgrym hwn yn hollol wir. Dysgynodd penwyni llawer tad tirion a mam serchog i'r bedd mewn tristwch oherwydd fod eu plant wedi eu hudo oddiar yr iawn ffordd, trwy ddylanwad hudoliaethus cymdeithion pechadurus. Gwelwyd Seion cynhyn yn gwisgoei galarwisgoeddoher- wydd fod rhai o'i gwýr ieuainc gobeithiol wedi eu hudo i gefnu ar ýr hen ffordd, trwy ddylanwad cyfeillach lygred- ig. Gellir clywed lluoedd erchyll uffern yn crechwenu oherwydd llwyddiant cymdeithion pechadurus i gael pobl ìeuainc i adael byddin yr Iesu, ac i 3Tmrestru o dan faner prif elyn Duw. Yn yr olwg ar hynyma y mae 3Tn ddigon naturiol i ddyn ofyn, '' Paham y mae y fath ddylanwad ofnadwy gan gyfeillach bechadurus ar feddwl yr ieuanc ?" Ymdrechwn ateb y gofyniad. 1. Mae yn naturîoì i rai o gyffdyb oedran 7ioJi cymdcithas eu gilydd. Mae cymdeithasu yn beth naturiol i ddyn. Bod cymdeithasol yw. Un o'r cospedigaethau trymaf arno yw ei orf'odi i fod yn hollol ddigymdeithas. Eithr fel y mae dyn yn naturiol hoff o gyfeillach, felly hefyd y mae yv ieuanc yn naturiol hofê cyfeillach ei gyfoed. Mae cynifer o bethau yn gyffredin iddynt, fel y mae mor naturiol i'r naill garu cymdeithas y llall, ag ydyw i adar o'r un lüw hedeg i'r un lle. Mae y corff yn heini, y teimladau yn nwyfus, a'r ysbiyd yn fywiog. Mae gobeithion bywyd o'u blaenau, a'i siomedigaethau yn ddyeithr iddynt. Mae cynifer o bethau fel hyn yn gyffredin i'r ieuanc, fel y mae mor naturiol i'r naill hoffi cyfeillach y llall, ag ydyw i'r dwfr redeg i'r goriwaered. Mae y ffaith hon yn gwneyd fod yr ieuanc yn hawdd i'w hudo i gyfeillachau llygredig ei gyfoedion, a diau y dylai eglwys Dduw wneyd ei goreu i wrthweithio y dy- B " Ch-r-efror, 1870.