Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

41 " NA DDIFFODDWOH YR YSBRYD." fAí yr Ysbryd yn cael ei gymharu i dân ar gyfrif ei ddylanwad goleuol a phurol; ac fel y cyfryw, gellir ei ddiffodd. Mae yn cyflawni gwaith deublyg, sef argyhoeddi a sancteiddio. G-all cristionogion ddiffodd gwresogrwydd y cariad ag sydd yn cael ei gynyrchu gan yr Ysbryd saneteiddiol, trwy attal y goleuni sydd wedi ei daflu ar eu meddyliau. Yr oll y mae yr Ysbryd yn ei wneyd i'r anedifeiriol, heblaw rhoddi iddynt yr ysgrythyr- au, ydyw, dwyn gwirioneddau y Beibl i gyffyrddiad â'u calonau, fel ag i'w dwyn hwy i deimlo, er heb ei garu. Pa fodd y mae yr Ysbryd yn cael ei lorthsefyll ? Mae yn cael ei wrthwynebu trwy bob math o bechodau allanol, trwy bob pleser ansanctaidd, trwy annghymedroldeb, trwy annghyfiawnder mewn masnach, a thrwy beidio gwneyd i ereill fel yr ewyllysiem i ereill wneyd i ninau. Hefyd, mae yr Ysbryd yn cael ei wrthwynebu trwy bob ymgais i daflu ymaith argrafíìadau difrifol, yn codi oddiar gasineb at Dduw a'i ffordd, ac oddiwrth ddymuniad hunanol i fwynhau pleserau pechod am " funud awr." Hefyd, mae yr Ysbryd yn cael ei wrthwynebu trwy esgeuluso gweddio, a pheidio mynychu moddion a chyfarfodydd crefyddol—esgeuluso darllen y Beibl yn ddyddiol, ac es- geuluso myfyrio ar bynciau dwyfol. Hefyd, trwy bechod- au y galon, trwy hunanoldeb, balchder ; o ddiffyg cariad sanctaidd at ddyn, a gelyniaeth yn erbyn Duw. Ond am y pechadur anedifeiriol, nid yw yn gwneyd dim ag y mae yr Ysbryd yn ei orchymyn iddo, oddigerth yn y ffurf allanol yn unig. Yn mhob symudiad moesol o eiddo ei enaid, mae ei holl ymdrechion yn hunanol a balch. Nid yw yn gofalu dim am ogoniant Duw. Oni bai fod yna olwg am wobr yn cael ei gynyg iddo ef, ni wnai byth dra- llodi yn nghylch. crefydd. Ni ddarfu y mab afradlon wneyd yr un cam tuag adref hyd nes y daeth " ato ei hun;" ac ni fydd i'r pechadur *gyda'i holl ymdrechion gynorthwyo Duw yn newidiad ei galon.* Mae gwrthwynebu Ysbryd Duw yn beryglus a phechadurus. Mae yn bechod—yn rhyfel yn erbyn yr holl oleuni ag sydd wedi dyfod i'n byd am Dduw a thragwyddoldeb; ac mewn perthynas i waith y prynedigaeth, a Duw fel yr * Eto dylid cofio fod gan ddyn ei -waith priodol er sancteiddio ei galon. Gol. c Maweth, 1870