Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

141 PEBYGLON DYNION IEÜAINC. fAE yn wirionedd nas gellir ei wadu fod dynion ieuainc yn agored i beryglon neillduol a lluosog. Teimla tadau meddylgar, mamau serchog, a dyngarwyr haelfrydig, bryder byw yn eu cylcb; ac y mae eglwyf Dduw yn teimlo gofal calon yn eu haehos. A pha ryfedd hyn, os ystyrir y peryglon ofnadwy y mae yr ieuainc yn agored iddynt, a'u safle pwysig mewn bywyd. Mae cymeriad yr oes a ddel i fesur helaeth yn dibynu ar gy- meriad ieuenctyd yr oes hon. Gwyddom fod canoedd o'r cyfryw yn darllen y Winllan o fìs i fis; a bwriadwn y mis hwn alw eusylw aty peryglonlluosogac ofnadwy a'u cylch- ynant. Mae o annhraethol bwys i ddyn gael gwybod am y peryglon a'i cylchynant; heb hyny nis gall eu gochel yn effeithiol. Gellir rhanu peryglon dynion ieuainc i dri dosbarth, y rhai a nodir genym o un i un wrth symud yn mlaen. I. Peryglon eu tymor mewn bywyd yw y dosbarth cyntaf a nodir. Mae yn bawdd i bawb weled fod rhai cyf- nodau mewn bywyd yn fwy pwysig na chyfnodau ereill. Dywedir fod hyn yn wir am ddyn mewn ystyr anianol; oblegid dywed meddygon fod adeg mynediad plentj^n yn fachgen, bachgen yn ddyn ieuanc, dyn ieuanc yn ŵr, a gŵr yn henwr, yn gyfnodau hynod o bwysig; ac fod afiechydon y geilir mewn cyfnodau ereill bywyd eu bwrw ymaith yn hawdd, y cyfnodau hyn yn beryglus a marwol yn fynych. Mae hyn yn wir am ddyn fel bod moesol ac anfarwol, ac y mae cyfnodau yn hanes ei enaid ag sydd yn Uawn mor bwysig ìddo fel bod anfarwol ag ydyw y rhai a nodwyd iddo fel bod anianol ac amserol. Yn wir, yr wyf yn lled dybio mai yr hyn yw y cyfnodau hyn yn y ddau ystyr. Modd bynag am hyny, mae yn ffaith eglur fod peryglon neillduol yn perthyn i'r cyfnod mewn bywyd ag y mae dynion ieuainc wedi ei gyraeddyd. Goddefer i ni nodi rhai chonynt. 1. Mae cyflwr anmhrofiadol yr ieuanc yn ffynonell llawn o beryglon. Mae pobpeth yn newydd a dyeithr iddo ef; a phan y mae am y tro cyntaf yn anturio ar fôr tymestlog bywyd masnachol, nid oedd Oolumbus ei hun- an, pan mewn ofn a dychryn yr ymwthiai yn mlaen dros foroedd mawrion, yn ddim llai profìadol nag efe. Mae allan o olwg ei hen landmarhs; nid yw yn gwybod am y s Arrn 1870.